Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf 2006; ond nid yw’n cynnwys unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig trawsffiniol (o fewn yr ystyr a roddir i “cross-border Special Health Authority” yn adran 8A(5) o Ddeddf 2006) ac eithrio Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG;
ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf 2006;
mae “canlyniad andwyol hysbysadwy” (“notifiable adverse outcome”) yn digwydd pan ddaw’r ddyletswydd gonestrwydd yn effeithiol yn unol ag adran 3 o’r Ddeddf;
ystyr “corff cyfrifol” (“responsible body”) yw corff GIG y mae’r ddyletswydd gonestrwydd a osodir gan adran 3 o’r Ddeddf wedi dod yn effeithiol mewn perthynas ag ef;
ystyr “corff GIG” (“NHS body”) yw—
- a
Bwrdd Iechyd Lleol;
- b
ymddiriedolaeth GIG;
- c
Awdurdod Iechyd Arbennig;
- d
darparwr gofal sylfaenol;
- a
ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20062;
ystyr “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”) yw person, y mae corff GIG yn darparu neu wedi darparu gofal iechyd iddo, sydd wedi dioddef canlyniad andwyol;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020;
ystyr “gofal iechyd” (“health care”) yw gwasanaethau a ddarperir yng Nghymru o dan neu yn rhinwedd Deddf 2006 ar gyfer neu mewn cysylltiad ag—
- a
atal salwch, gwneud diagnosis ohono neu ei drin;
- b
hybu ac amddiffyn iechyd y cyhoedd;
- a
ystyr “gweithdrefn gonestrwydd” (“candour procedure”) yw’r weithdrefn a nodir yn y Rheoliadau hyn y mae rhaid i gorff GIG ei dilyn mewn perthynas â chanlyniad andwyol hysbysadwy;
mae “niwed” (“harm”) yn cynnwys niwed seicolegol ac, yn achos defnyddiwr gwasanaeth sy’n feichiog, golli neu niweidio’r plentyn heb ei eni;
ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 20113;
mae i “salwch” yr ystyr a roddir i “illness” yn adran 206 o Ddeddf 2006;
ystyr “ymddiheuriad” (“apology”) yw mynegiant o dristwch neu edifeirwch mewn cysylltiad â’r canlyniad andwyol hysbysadwy;
ystyr “ymddiriedolaeth GIG” (“NHS trust”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf 2006.
2
Mae person yn ddarparwr gofal sylfaenol, at ddibenion y Rheoliadau hyn, i’r graddau (a dim ond i’r graddau) y mae’r person yn darparu gofal iechyd ar ran Bwrdd Iechyd Lleol yn rhinwedd contract, cytundeb neu drefniant o dan Ran 4, 5, 6 neu 7 o Ddeddf 2006 rhwng y person a’r Bwrdd Iechyd Lleol.
3
Mae defnyddiwr gwasanaeth i’w drin fel pe bai wedi dioddef canlyniad andwyol os yw’r defnyddiwr yn profi mwy nag ychydig o niwed annisgwyl neu anfwriadol neu os yw’r amgylchiadau yn golygu y gallai brofi niwed o’r fath.
4
Mae gofal iechyd a ddarperir gan un corff GIG (y “corff darparu”) ar ran corff GIG arall (“y corff GIG trefnu”), yn rhinwedd contract, cytundeb neu drefniant a wneir o dan Ddeddf 2006 rhwng y corff darparu a’r corff trefnu, i’w drin at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai’n cael ei ddarparu gan y corff darparu, nid y corff trefnu.
5
Mae gofal iechyd a ddarperir gan berson ac eithrio corff GIG (y “darparwr”), ar ran corff GIG, pa un ai yn rhinwedd contract, cytundeb neu drefniant a wneir o dan Ddeddf 2006 neu fel arall, i’w drin at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai’n cael ei ddarparu gan y corff GIG, nid y darparwr.
6
Mae dogfen y mae’n ofynnol iddi fod yn “ysgrifenedig”, neu gofnod y mae’n ofynnol iddo fod yn “ysgrifenedig”, yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn cynnwys cyfathrebiad electronig, fel y diffinnir “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 20004.