Diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 201114

1

Mae Rheoliadau 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

  • ystyr “Deddf 2020” (“the 2020 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020;

  • ystyr “Rheoliadau 2023” (“the 2023 Regulations”) yw Rheoliadau’r Weithdrefn Dyletswydd Gonestrwydd (Cymru) 2023;

3

Yn lle rheoliad 12(7) (personau y caniateir iddynt hysbysu pryderon), rhodder—

7

Pan hysbysir pryder gan aelod o staff y corff cyfrifol, rhaid i’r corff cyfrifol, pan fo ei ymchwiliad dechreuol yn canfod bod niwed cymedrol neu ddifrifol neu farwolaeth wedi digwydd—

a

oni bai bod hysbysiad o dan reoliad 4(1) o Reoliadau 2023 eisoes wedi ei roi, hysbysu’r claf y mae’r pryder yn gysylltiedig ag ef, neu ei gynrychiolydd, am yr hysbysiad o bryder, a

b

oni bai bod paragraff (8) yn gymwys, gynnwys y claf, neu ei gynrychiolydd, yn yr ymchwiliad i’r pryder,

yn unol â Rhan 5.

4

Yn rheoliad 12(8) (personau y caniateir iddynt hysbysu pryderon), hepgorer “pe rhoddid gwybod i’r claf am y pryder, neu”.

5

Yn rheoliad 22 (y weithdrefn cyn ymchwilio)—

a

ym mharagraff (1), yn lle “dau ddiwrnod” rhodder “phum niwrnod”;

b

ar ddechrau paragraff (6), yn lle “Rhaid” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid”;

c

ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

7

Pan fo’r ddyletswydd gonestrwydd o dan adran 3 o Ddeddf 2020 wedi dod yn effeithiol mewn perthynas â thestun y pryder a phan fo hysbysiad o dan reoliadau 4(1) a 5(1) o Reoliadau 2023 wedi ei roi, nid yw’n ofynnol i’r corff cyfrifol anfon copi o’r hysbysiad o’r pryder at y claf neu ei gynrychiolydd.