- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
14.—(1) Mae Rheoliadau 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “Deddf 2020” (“the 2020 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020;”;
“ystyr “Rheoliadau 2023” (“the 2023 Regulations”) yw Rheoliadau’r Weithdrefn Dyletswydd Gonestrwydd (Cymru) 2023;”.
(3) Yn lle rheoliad 12(7) (personau y caniateir iddynt hysbysu pryderon), rhodder—
“(7) Pan hysbysir pryder gan aelod o staff y corff cyfrifol, rhaid i’r corff cyfrifol, pan fo ei ymchwiliad dechreuol yn canfod bod niwed cymedrol neu ddifrifol neu farwolaeth wedi digwydd—
(a)oni bai bod hysbysiad o dan reoliad 4(1) o Reoliadau 2023 eisoes wedi ei roi, hysbysu’r claf y mae’r pryder yn gysylltiedig ag ef, neu ei gynrychiolydd, am yr hysbysiad o bryder, a
(b)oni bai bod paragraff (8) yn gymwys, gynnwys y claf, neu ei gynrychiolydd, yn yr ymchwiliad i’r pryder,
yn unol â Rhan 5.”
(4) Yn rheoliad 12(8) (personau y caniateir iddynt hysbysu pryderon), hepgorer “pe rhoddid gwybod i’r claf am y pryder, neu”.
(5) Yn rheoliad 22 (y weithdrefn cyn ymchwilio)—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “dau ddiwrnod” rhodder “phum niwrnod”;
(b)ar ddechrau paragraff (6), yn lle “Rhaid” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid”;
(c)ar ôl paragraff (6) mewnosoder—
“(7) Pan fo’r ddyletswydd gonestrwydd o dan adran 3 o Ddeddf 2020 wedi dod yn effeithiol mewn perthynas â thestun y pryder a phan fo hysbysiad o dan reoliadau 4(1) a 5(1) o Reoliadau 2023 wedi ei roi, nid yw’n ofynnol i’r corff cyfrifol anfon copi o’r hysbysiad o’r pryder at y claf neu ei gynrychiolydd.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: