Swyddog cyfrifol11

1

Rhaid i bob corff cyfrifol ddynodi person (y “swyddog cyfrifol”) i gymryd cyfrifoldeb cyffredinol am weithrediad effeithiol y weithdrefn gonestrwydd o ddydd i ddydd, ac yn benodol i sicrhau bod y corff cyfrifol yn cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn.

2

Rhaid i’r swyddog cyfrifol—

a

yn achos Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu Awdurdod Iechyd Arbennig, fod yn berson sy’n swyddog-aelod neu’n gyfarwyddwr gweithredol yn y corff hwnnw, fel y bo’n briodol;

b

yn achos darparwr gofal sylfaenol, fod y person sy’n gweithredu fel prif swyddog gweithredol y corff hwnnw neu, os nad oes un—

i

y person sy’n unig berchennog ar y corff cyfrifol;

ii

pan fo’r corff cyfrifol yn bartneriaeth, yn bartner;

iii

mewn unrhyw achos arall, yn un o gyfarwyddwyr y corff cyfrifol, neu’n berson sy’n gyfrifol am reoli’r corff cyfrifol.

3

Caniateir i swyddogaethau’r swyddog cyfrifol gael eu cyflawni gan y person hwnnw neu gan unrhyw berson a awdurdodir gan y corff cyfrifol i weithredu ar ei ran ar yr amod bod y person a awdurdodir felly o dan reolaeth a goruchwyliaeth uniongyrchol y swyddog cyfrifol.