Goruchwyliaeth strategol o’r weithdrefn gonestrwydd10

1

Rhaid i bob corff cyfrifol ddynodi person i fod yn gyfrifol am gynnal goruchwyliaeth strategol o’r modd y mae’n gweithredu’r weithdrefn gonestrwydd.

2

Pan fo’r corff cyfrifol yn Fwrdd Iechyd Lleol, yn Ymddiriedolaeth GIG neu’n Awdurdod Iechyd Arbennig, rhaid i’r person hwnnw fod yn un o’i aelodau nad ydynt yn swyddogion neu’n un o’i gyfarwyddwyr anweithredol, fel y bo’n briodol.