RHAN 2Gweithwyr amaethyddol

Telerau ac amodau cyflogaeth3

Mae cyflogaeth gweithiwr amaethyddol yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau a nodir yn y Rhan hon ac yn Rhannau 3, 4 a 5 o’r Gorchymyn hwn.

Graddau a chategorïau gweithiwr amaethyddol4

Rhaid i weithiwr amaethyddol gael ei gyflogi fel gweithiwr ar un o’r Graddau a bennir yn erthyglau 5 i 9 neu fel prentis yn unol â’r darpariaethau yn erthygl 10.

Gweithiwr Datblygu Amaethyddol Gradd A5

Rhaid i weithiwr amaethyddol—

a

sydd â llai na 3 blynedd o brofiad ymarferol sy’n berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, a

b

na all ddarparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 2 sy’n berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 2 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Atodlen 4, sy’n berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth,

gael ei gyflogi fel Gweithiwr Datblygu Amaethyddol Gradd A.

Gweithiwr Amaethyddol Gradd B6

Rhaid i weithiwr amaethyddol—

a

sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 2, y mae rhaid iddynt fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 2 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Atodlen 4, y mae rhaid iddi fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, neu

b

sydd ag o leiaf 3 blynedd o brofiad ymarferol mewn amaethyddiaeth fel Gweithiwr Datblygu Amaethyddol Gradd A,

gael ei gyflogi fel Gweithiwr Amaethyddol Gradd B.

Gweithiwr Amaethyddol Uwch Gradd C7

1

Rhaid i weithiwr amaethyddol—

a

sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 3, y mae rhaid iddynt fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 3 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Atodlen 4, y mae rhaid iddi fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth,

b

sydd ag o leiaf 2 flynedd o brofiad ymarferol mewn amaethyddiaeth fel Gweithiwr Amaethyddol Gradd B, neu

c

sydd wedi ei gyflogi fel arweinydd tîm,

gael ei gyflogi fel Gweithiwr Amaethyddol Uwch Gradd C.

2

At ddibenion yr erthygl hon, mae “arweinydd tîm” yn gyfrifol am arwain tîm o weithwyr amaethyddol ac am fonitro sut mae’r tîm yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan neu ar ran eu cyflogwr ond nid yw’n gyfrifol am faterion disgyblu.

Uwch-weithiwr Amaethyddol Gradd D8

Rhaid i weithiwr amaethyddol—

a

sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 4, y mae rhaid iddynt fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 4 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Atodlen 4, y mae rhaid iddi fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, neu

b

sydd â chyfrifoldebau sy’n cynnwys gweithredu penderfyniadau rheoli yn annibynnol neu oruchwylio staff,

gael ei gyflogi fel Uwch-weithiwr Amaethyddol Gradd D.

Rheolwr Amaethyddol Gradd E9

Rhaid i weithiwr amaethyddol y mae’n ofynnol iddo ysgwyddo cyfrifoldeb o ddydd i ddydd, gan gynnwys hurio a rheoli staff pan fo’n berthnasol—

a

dros ddaliad cyfan y cyflogwr, neu

b

dros ran o ddaliad y cyflogwr a redir fel gweithrediad neu fusnes ar wahân,

gael ei gyflogi fel Rheolwr Amaethyddol Gradd E.

Prentisiaid10

1

Mae gweithiwr amaethyddol yn brentis sydd wedi ei gyflogi o dan brentisiaeth os yw’n cael ei gyflogi o dan naill ai contract prentisiaeth neu gytundeb prentisiaeth o fewn ystyr “apprenticeship agreement” yn adran 32 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 20098, neu’n cael ei drin fel pe bai wedi ei gyflogi o dan gontract prentisiaeth.

2

Rhaid i weithiwr amaethyddol gael ei drin fel pe bai wedi ei gyflogi o dan gontract prentisiaeth os yw wedi ei gymryd ymlaen yng Nghymru o dan drefniadau Llywodraeth o’r enw Prentisiaethau Sylfaen, Prentisiaethau neu Brentisiaethau Uwch.

3

Yn yr erthygl hon ystyr “trefniadau Llywodraeth” yw trefniadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 19739 neu o dan adran 17B o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 199510.