RHAN 2Gweithwyr amaethyddol
Gweithiwr Amaethyddol Uwch Gradd C7
1
Rhaid i weithiwr amaethyddol—
a
sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 3, y mae rhaid iddynt fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 3 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Atodlen 4, y mae rhaid iddi fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth,
b
sydd ag o leiaf 2 flynedd o brofiad ymarferol mewn amaethyddiaeth fel Gweithiwr Amaethyddol Gradd B, neu
c
sydd wedi ei gyflogi fel arweinydd tîm,
gael ei gyflogi fel Gweithiwr Amaethyddol Uwch Gradd C.
2
At ddibenion yr erthygl hon, mae “arweinydd tîm” yn gyfrifol am arwain tîm o weithwyr amaethyddol ac am fonitro sut mae’r tîm yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan neu ar ran eu cyflogwr ond nid yw’n gyfrifol am faterion disgyblu.