RHAN 5Yr hawl i gael amser i ffwrdd
Absenoldeb oherwydd profedigaeth41
1
Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth â thâl, a thâl profedigaeth amaethyddol yn unol ag erthygl 43, o dan amgylchiadau pan fo’r brofedigaeth yn ymwneud â pherson yng Nghategori A, Categori B neu Gategori C.
2
At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori A yw
a
plentyn.
3
At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori B yw—
a
rhiant i’r gweithiwr amaethyddol,
b
priod neu bartner sifil y gweithiwr amaethyddol, neu
c
rhywun y mae’r gweithiwr amaethyddol yn byw gydag ef fel pe baent yn briod (heb fod yn gyfreithiol briod) neu rywun y mae’r gweithiwr amaethyddol yn byw gydag ef fel pe baent mewn partneriaeth sifil (heb fod mewn partneriaeth sifil yn gyfreithiol).
4
At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori C yw—
a
brawd neu chwaer i’r gweithiwr amaethyddol,
b
nain neu daid i’r gweithiwr amaethyddol, neu
c
ŵyr neu wyres i’r gweithiwr amaethyddol.
5
At ddibenion paragraff (1) mae absenoldeb oherwydd profedigaeth yn ychwanegol at unrhyw hawliau eraill i gael absenoldeb o dan y Gorchymyn hwn.