RHAN 5Yr hawl i gael amser i ffwrdd
Taliad yn lle gwyliau blynyddol38
1
Yn ddarostyngedig i’r amodau ym mharagraff (2), caiff gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr gytuno bod y gweithiwr amaethyddol i gael taliad yn lle diwrnod o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol.
2
Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
a
bod uchafswm nifer y diwrnodau y caiff gweithiwr amaethyddol gael taliad yn lle gwyliau blynyddol ar eu cyfer yn ystod unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol wedi ei ragnodi yn y Tabl yn Atodlen 3;
b
bod cofnod ysgrifenedig i’w gadw gan y cyflogwr ynglŷn ag unrhyw gytundeb y caiff gweithiwr amaethyddol daliad yn lle diwrnod o wyliau blynyddol am o leiaf 3 blynedd gan gychwyn ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau honno;
c
o dan amgylchiadau pan nad yw’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ar ddiwrnod fel y cytunir yn unol â pharagraff (1), bod y diwrnod hwnnw i barhau’n rhan o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol;
d
bod taliad yn lle gwyliau blynyddol i’w dalu ar gyfradd sy’n cynnwys y gyfradd goramser a bennir yn erthygl 12 yn ogystal â thâl gwyliau a gyfrifir yn unol ag erthygl 36 fel pe bai’r diwrnod y gwneir taliad yn lle gwyliau blynyddol ar ei gyfer yn ddiwrnod y mae’r gweithiwr amaethyddol yn cymryd gwyliau blynyddol.