RHAN 5Yr hawl i gael amser i ffwrdd
Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a gyflogir am ran o’r flwyddyn gwyliau34
1
Mae gan weithiwr amaethyddol a gyflogir gan yr un cyflogwr am ran o’r flwyddyn gwyliau blynyddol hawl i gronni gwyliau blynyddol yn ôl cyfradd o 1/52 o’r hawl i gael gwyliau blynyddol a bennir yn y Tabl yn Atodlen 2 am bob wythnos orffenedig o wasanaeth gyda’r un cyflogwr.
2
Pan fo swm y gwyliau blynyddol a gronnwyd mewn achos penodol yn cynnwys ffracsiwn o ddiwrnod heblaw hanner diwrnod, mae’r ffracsiwn hwnnw—
a
i’w dalgrynnu i lawr i’r diwrnod cyfan nesaf os yw’n llai na hanner diwrnod, a
b
i’w dalgrynnu i fyny i’r diwrnod cyfan nesaf os yw’n fwy na hanner diwrnod.