- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
30.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gyfnod gorffwys di-dor o ddim llai na 24 awr ym mhob cyfnod o saith niwrnod pan fo’n gweithio i’w gyflogwr.
(2) Os yw ei gyflogwr yn penderfynu hynny, bydd gan y gweithiwr amaethyddol hawl i naill ai—
(a)dau gyfnod gorffwys di-dor o ddim llai na 24 awr yr un ym mhob cyfnod o 14 o ddiwrnodau pan fo’n gweithio i’w gyflogwr, neu
(b)un cyfnod gorffwys di-dor o ddim llai na 48 awr ym mhob cyfnod o 14 o ddiwrnodau o’r fath, yn lle’r hawlogaeth y darperir ar ei chyfer ym mharagraff (10).
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), mae gan weithiwr amaethyddol sydd o dan 18 oed hawl i gyfnod gorffwys o ddim llai na 48 awr ym mhob cyfnod o saith niwrnod pan fo’n gweithio i’w gyflogwr.
(4) At ddibenion paragraffau (1) i (3), cymerir bod cyfnod o saith niwrnod neu (yn ôl y digwydd) gyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dechrau—
(a)ar ddechrau pob wythnos neu (yn ôl y digwydd) bob yn ail wythnos;
(b)ar yr adegau hynny ar y diwrnodau hynny y darperir ar eu cyfer drwy gytundeb rhwng y gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr.
(5) Mewn achos pan gymerir, yn unol â pharagraff (4), bod cyfnodau o 14 o ddiwrnodau yn dechrau ar ddechrau pob yn ail wythnos, cymerir bod y cyfnod cyntaf o’r fath sy’n gymwys yn achos gweithiwr amaethyddol penodol yn dechrau ar ddechrau’r wythnos y mae’r gyflogaeth honno’n dechrau.
(6) At ddibenion paragraffau (4) a (5), mae wythnos yn dechrau am hanner nos rhwng dydd Sul a dydd Llun.
(7) Ni chaiff yr isafswm cyfnod gorffwys y mae gan weithiwr amaethyddol hawl iddo o dan baragraff (1) neu (2) gynnwys unrhyw ran o gyfnod gorffwys y mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl iddo o dan erthygl 29(1), ac eithrio pan fo cyfiawnhad dros hynny am resymau technegol neu wrthrychol neu am resymau sy’n ymwneud â threfnu gwaith.
(8) O ran yr isafswm cyfnod gorffwys y mae gan weithiwr amaethyddol sydd o dan 18 oed hawl iddo o dan baragraff (3)—
(a)caniateir torri ar ei draws yn achos gweithgareddau sy’n ymwneud â chyfnodau gwaith sydd wedi eu rhannu dros y diwrnod neu sy’n para am gyfnod byr, a
(b)caniateir ei leihau pan ellir cyfiawnhau hynny am resymau technegol neu drefniadol, ond nid i lai na 36 awr yn olynol.
(9) Yn ddarostyngedig i baragraff (10), nid yw’r darpariaethau sy’n ymwneud â gorffwys dyddiol a bennir ym mharagraffau (1), (2), a (3) yn gymwys i weithiwr amaethyddol—
(a)pan nad yw cyfnod ei amser gweithio yn cael ei fesur neu ei bennu ymlaen llaw oherwydd nodweddion penodol y gweithgaredd y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei gyflawni,
(b)pan fo gweithgareddau’r gweithiwr amaethyddol yn golygu bod angen parhad mewn gwasanaeth neu mewn cynhyrchu,
(c)pan geir ymchwydd gweithgarwch rhagweladwy,
(d)pan effeithir ar weithgareddau’r gweithiwr amaethyddol—
(i)gan ddigwyddiad oherwydd amgylchiadau anarferol nad ydynt yn rhagweladwy, y tu hwnt i reolaeth ei gyflogwr,
(ii)gan ddigwyddiadau eithriadol, nad oedd modd osgoi eu canlyniadau er i’r cyflogwr arfer pob gofal dyladwy, neu
(iii)gan ddamwain neu’r risg bod damwain ar fin digwydd, neu
(e)pan fo’r cyflogwr a’r gweithiwr amaethyddol yn cytuno i addasu paragraffau (1), (2) a (3) neu i’w hatal rhag bod yn gymwys yn y modd ac i’r graddau a ganiateir gan neu o dan Reoliadau Amser Gwaith 1998(1).
(10) Pan fo paragraff (9) yn gymwys a bod ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio yn unol â hynny yn ystod cyfnod a fyddai fel arall yn seibiant gorffwys wythnosol—
(a)rhaid i’r cyflogwr, oni bai bod is-baragraff (b) yn gymwys, ganiatáu i’r gweithiwr amaethyddol gymryd cyfnod cyfatebol o seibiant yn ei le, a
(b)mewn achosion eithriadol pan nad yw, am resymau gwrthrychol, yn bosibl caniatáu cyfnod gorffwys o’r fath, rhaid i gyflogwr y gweithiwr amaethyddol gynnig iddo unrhyw amddiffyniad sy’n briodol i warchod iechyd a diogelwch y gweithiwr amaethyddol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: