RHAN 5Yr hawl i gael amser i ffwrdd
Gorffwys dyddiol29
1
Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gyfnod gorffwys o ddim llai nag un ar ddeg o oriau yn olynol ym mhob cyfnod o 24 awr pan fo’n gweithio i’w gyflogwr.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae gan weithiwr amaethyddol sydd o dan 18 oed hawl i gyfnod gorffwys o ddim llai na deuddeng awr yn olynol ym mhob cyfnod o 24 awr pan fo’n gweithio i’w gyflogwr.
3
Caniateir torri ar draws yr isafswm cyfnod gorffwys y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (8) yn achos gweithgareddau sy’n ymwneud â chyfnodau gwaith sydd wedi eu rhannu dros y diwrnod neu sy’n para am gyfnod byr.
4
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), nid yw’r darpariaethau sy’n ymwneud â gorffwys dyddiol a bennir ym mharagraffau (1), (2) a (3) yn gymwys i weithiwr amaethyddol—
a
pan nad yw cyfnod ei amser gweithio yn cael ei fesur neu ei bennu ymlaen llaw oherwydd nodweddion penodol y gweithgaredd y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei gyflawni,
b
pan fo gweithgareddau’r gweithiwr amaethyddol yn golygu bod angen parhad mewn gwasanaeth neu mewn cynhyrchu,
c
pan geir ymchwydd gweithgarwch rhagweladwy,
d
pan effeithir ar weithgareddau’r gweithiwr amaethyddol—
i
gan ddigwyddiad oherwydd amgylchiadau anarferol nad ydynt yn rhagweladwy, y tu hwnt i reolaeth ei gyflogwr,
ii
gan ddigwyddiadau eithriadol, nad oedd modd osgoi eu canlyniadau er i’r cyflogwr arfer pob gofal dyladwy, neu
iii
gan ddamwain neu’r risg bod damwain ar fin digwydd, neu
e
pan fo’r cyflogwr a’r gweithiwr amaethyddol yn cytuno i addasu paragraffau (1), (2) a (3) neu i’w hatal rhag bod yn gymwys yn y modd ac i’r graddau a ganiateir gan neu o dan Reoliadau Amser Gwaith 199815.
5
Pan fo paragraff (4) yn gymwys a bod ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio yn unol â hynny yn ystod cyfnod a fyddai fel arall yn seibiant gorffwys dyddiol—
a
rhaid i’r cyflogwr, oni bai bod is-baragraff (b) yn gymwys, ganiatáu i’r gweithiwr amaethyddol gymryd cyfnod cyfatebol o seibiant yn ei le, a
b
mewn achosion eithriadol pan nad yw, am resymau gwrthrychol, yn bosibl caniatáu cyfnod gorffwys o’r fath, rhaid i gyflogwr y gweithiwr amaethyddol gynnig iddo unrhyw amddiffyniad sy’n briodol i warchod iechyd a diogelwch y gweithiwr amaethyddol.