RHAN 5Yr hawl i gael amser i ffwrdd
Seibiannau gorffwys28
1
Mae gan weithiwr amaethyddol sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sydd â’i amser gweithio dyddiol yn fwy na 5 awr a hanner hawl i gael seibiant gorffwys.
2
Mae gan weithiwr amaethyddol sydd o dan 18 oed ac sydd â’i amser gweithio dyddiol yn fwy na 4 awr a hanner hawl i gael seibiant gorffwys.
3
Mae’r seibiant gorffwys y darperir ar ei gyfer ym mharagraffau (1) a (2) yn gyfnod di-dor o ddim llai na 30 munud ac mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w dreulio i ffwrdd o’i weithfan (os oes ganddo un) neu ei le gwaith arall.
4
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), nid yw’r darpariaethau ynglŷn â seibiannau gorffwys a bennir ym mharagraffau (1), (2) a (3) yn gymwys i weithiwr amaethyddol—
a
pan nad yw cyfnod ei amser gweithio yn cael ei fesur neu ei bennu ymlaen llaw oherwydd nodweddion penodol y gweithgaredd y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei gyflawni,
b
pan fo gweithgareddau’r gweithiwr amaethyddol yn golygu bod angen parhad mewn gwasanaeth neu mewn cynhyrchu,
c
pan geir ymchwydd gweithgarwch rhagweladwy,
d
pan effeithir ar weithgareddau’r gweithiwr amaethyddol—
i
gan ddigwyddiad oherwydd amgylchiadau anarferol nad ydynt yn rhagweladwy, y tu hwnt i reolaeth ei gyflogwr,
ii
gan ddigwyddiadau eithriadol, nad oedd modd osgoi eu canlyniadau er i’r cyflogwr arfer pob gofal dyladwy, neu
iii
gan ddamwain neu’r risg bod damwain ar fin digwydd, neu
e
pan fo’r cyflogwr a’r gweithiwr amaethyddol yn cytuno i addasu paragraffau (1), (2) a (3) neu i’w hatal rhag bod yn gymwys yn y modd ac i’r graddau a ganiateir gan neu o dan Reoliadau Amser Gwaith 199814.
5
Pan fo paragraff (4) yn gymwys a bod ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio yn unol â hynny yn ystod cyfnod a fyddai fel arall yn seibiant gorffwys—
a
rhaid i’r cyflogwr, oni bai bod is-baragraff (b) yn gymwys, ganiatáu i’r gweithiwr amaethyddol gymryd cyfnod cyfatebol o seibiant yn ei le, a
b
mewn achosion eithriadol pan nad yw, am resymau gwrthrychol, yn bosibl caniatáu cyfnod gorffwys o’r fath, rhaid i gyflogwr y gweithiwr amaethyddol gynnig iddo unrhyw amddiffyniad sy’n briodol i warchod iechyd a diogelwch y gweithiwr amaethyddol.
6
Os cyflogir gweithiwr amaethyddol sydd o dan 18 oed, ar unrhyw ddiwrnod, gan fwy nag un cyflogwr, pennir ei amser gweithio dyddiol at ddibenion paragraff (2) drwy gyfuno nifer yr oriau a weithir ganddo i bob cyflogwr.