RHAN 4Yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol

Pennu swm tâl salwch amaethyddol22

1

Mae tâl salwch amaethyddol yn daladwy yn ôl cyfradd sy’n cyfateb i o leiaf y gyfradd tâl isaf fesul awr a ragnodir yn erthygl 11 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 1 iddo fel y gyfradd sy’n gymwys i’r radd honno neu’r categori hwnnw o weithiwr amaethyddol.

2

Pennir swm y tâl salwch amaethyddol sy’n daladwy i weithiwr amaethyddol drwy gyfrifo nifer yr oriau contract dyddiol a fyddai wedi cael eu gweithio yn ystod cyfnod o absenoldeb salwch.

3

Pennir nifer yr oriau contract dyddiol—

a

o dan amgylchiadau pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio nifer penodedig o oriau bob wythnos drwy rannu cyfanswm nifer yr oriau a weithiwyd yn ystod unrhyw wythnos â nifer y diwrnodau a weithiwyd yn yr wythnos honno;

b

o dan amgylchiadau pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio nifer amrywiol o oriau bob wythnos, drwy ddefnyddio’r fformwla—

QH÷8DWEWmath

pan fo, at ddibenion yr erthygl hon—

  • QH yn gyfanswm nifer yr oriau cymwys yn y cyfnod, a

  • DWEW yn nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol o’u cymryd ar gyfartaledd yn ystod cyfnod o 8 wythnos yn union cyn i’r absenoldeb salwch gychwyn.

4

Yn yr erthygl hon “oriau cymwys” yw oriau—

a

pan fu’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu oramser gwarantedig,

b

pan gymerodd y gweithiwr amaethyddol wyliau blynyddol neu absenoldeb oherwydd profedigaeth,

c

pan gafodd y gweithiwr amaethyddol absenoldeb salwch a oedd yn gymwys ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn, neu

d

pan gafodd y gweithiwr amaethyddol absenoldeb salwch nad oedd yn gymwys ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn, a

  • “diwrnodau cymwys” yw unrhyw ddiwrnodau o fewn y cyfnod y cafwyd ynddynt oriau cymwys mewn perthynas â’r gweithiwr amaethyddol.

5

At ddibenion cyfrifiadau o dan yr erthygl hon, pan fo gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan ei gyflogwr am lai nag 8 wythnos, rhaid ystyried yr oriau cymwys a’r diwrnodau cymwys yn ystod y gwir nifer o wythnosau y mae’r gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan ei gyflogwr.