RHAN 4Yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol

Amodau cymhwyso ar gyfer tâl salwch amaethyddol19

Mae gweithiwr amaethyddol yn cymhwyso ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn ar yr amod bod y gweithiwr amaethyddol—

a

wedi cael ei gyflogi’n ddi-dor gan ei gyflogwr am gyfnod o 52 o wythnosau o leiaf cyn yr absenoldeb salwch;

b

wedi hysbysu ei gyflogwr am yr absenoldeb salwch mewn ffordd a gytunwyd yn flaenorol gyda’i gyflogwr neu, yn niffyg unrhyw gytundeb o’r fath, drwy unrhyw ddull rhesymol;

c

o dan amgylchiadau pan fo’r absenoldeb salwch wedi parhau am gyfnod o 8 diwrnod yn olynol neu ragor, wedi darparu tystysgrif i’w gyflogwr gan ymarferydd meddygol cofrestredig sy’n datgelu’r diagnosis ynghylch anhwylder meddygol y gweithiwr ac sy’n datgan mai’r anhwylder sydd wedi achosi absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol.