RHAN 3Yr isafswm cyflog amaethyddol

Lwfans gwrthbwyso llety15

1

Pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu tŷ i weithiwr amaethyddol am y cyfan o’r wythnos honno, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £1.65 yr wythnos oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy ar gyfer yr wythnos honno.

2

Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu llety arall i weithiwr amaethyddol, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £5.29 y dydd oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy am bob diwrnod yn yr wythnos y darperir y llety arall i’r gweithiwr.

3

At ddibenion paragraffau (1) a (4), ystyr “tŷ” yw tŷ annedd cyfan neu lety hunangynhwysol (gan gynnwys unrhyw ardd o fewn cwrtil y tŷ annedd neu’r llety hunangynhwysol hwnnw) y mae’n ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol fyw ynddo yn rhinwedd contract y gweithiwr amaethyddol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau mewn modd priodol neu well.

4

At ddibenion paragraff (2) ystyr “llety arall” yw unrhyw lety byw heblaw tŷ—

a

sy’n addas i bobl fyw ynddo,

b

sy’n ddiogel ac yn ddiddos,

c

sy’n darparu gwely i’w ddefnyddio gan bob gweithiwr amaethyddol unigol yn unig, a

d

sy’n darparu dŵr yfed glân, cyfleusterau glanweithdra addas a digonol a chyfleusterau ymolchi i weithwyr amaethyddol yn unol â rheoliadau 20 i 22 o Reoliadau Gweithleoedd (Iechyd, Diogelwch a Lles) 199212 fel pe bai’r llety’n weithle yr oedd rheoliadau 20 i 22 o’r Rheoliadau hynny’n gymwys iddo.

5

Dim ond pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi gweithio o leiaf 15 awr yn ystod yr wythnos honno y caniateir i’r didyniad ym mharagraff (2) gael ei wneud.

6

Rhaid i unrhyw amser yn ystod yr wythnos honno pan fo’r gweithiwr amaethyddol ar wyliau blynyddol neu absenoldeb oherwydd profedigaeth gyfrif tuag at y 15 awr hynny.