- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthygl 5
1.—(1) Rhaid amgáu’r brigiad creigiog gyda ffensys o amgylch ei derfyn allanol.
(2) Ni chaniateir unrhyw ddatblygu hyd nes y cydymffurfir â’r amod yn is-baragraff (1), ac eithrio darparu goleuadau, ffensys neu arwyddion.
2.—(1) Ni chaniateir gwneud y gwaith adeiladu a restrir yn is-baragraff (2) ond rhwng yr oriau a ganlyn—
(a)0700 a 1900 yn ystod yr wythnos, a
(b)0700 a 1300 ar ddydd Sadwrn.
(2) Unrhyw—
(a)symud daear;
(b)drilio, torri neu ffrwydro;
(c)gosod arwyneb caled;
(d)defnyddio cerbydau neu gyfarpar gyda larymau bacio.
3.—(1) Ni chaiff lefelau sŵn yn ystod gwaith adeiladu fod yn uwch na 65dB (LAeq, 1awr).
(2) Ni chaiff lefel dirgryniad y ddaear fod yn uwch nag—
(a)cyflymder uchaf gronynnau o 10 milimedr yr eiliad;
(b)cyflymder uchaf gronynnau o 1 milimedr yr eiliad ar 10 neu ragor o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 15 niwrnod yn olynol.
(3) Rhaid mesur terfynau sŵn a dirgryniad o 1 fetr i ffwrdd o unrhyw wedd derbynnydd preswyl.
4.—(1) Rhaid cydymffurfio â’r amod hwn yn ystod unrhyw ddatblygu a ganiateir gan erthygl 3(1)(b) neu (c).
(2) Rhaid codi arwyddion dros dro er mwyn—
(a)cyfeirio cerbydau adeiladu i ddynesu at y tir ac ymadael â’r tir gan ddefnyddio ffordd feingefn Parc Cybi o’r gyffordd sy’n cysylltu â chefnffordd yr A55, a
(b)annog cerbydau rhag defnyddio ffordd Lôn Trefignath o’i chyffordd â’r tir hyd at ei chyffordd â Lon Towyn Capel.
(3) Rhaid darparu mannau parcio o fewn yr ardal ddatblygadwy sy’n ddigonol i atal parcio gorlif ar ffordd feingefn Parc Cybi.
(4) Rhaid darparu lle ar gyfer llwytho a dadlwytho o fewn yr ardal ddatblygadwy sy’n ddigonol i atal y gweithgaredd hwn rhag digwydd ar ffordd feingefn Parc Cybi.
(5) Rhaid i gyfleusterau golchi olwynion fod ar gael a rhaid iddynt gael eu gweithredu i atal mwd a malurion rhag cael eu dyddodi ar y briffordd, a phan fo dyddodion yn digwydd, rhaid i’r datblygwr sicrhau bod y briffordd yn cael ei sgubo.
5.—(1) Rhaid cydymffurfio â’r amod hwn yn ystod unrhyw ddatblygu a ganiateir gan erthygl 3(1)(b) neu (c).
(2) Ni chaniateir defnyddio goleuadau artiffisial ond pan fo hynny’n angenrheidiol.
(3) Rhaid cyfeirio unedau goleuadau i ffwrdd o bob derbynnydd preswyl.
6. Rhaid i fesurau effeithiol fod ar waith i ddiogelu rhag dod â rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid estron goresgynnol ar y tir ar gerbyd neu ar droed.
7. Ni chaiff uchder adeiladau ar gyfer y parthau a nodir yng ngholofn (1) o Dabl 1 fod yn uwch na’r uchder a nodir yng ngholofn (2).
| (1) Parth | (2) Uchder uchaf adeilad |
|---|---|
| Parth A | 23 o fetrau |
| Parth B | 33 o fetrau |
8.—(1) Rhaid i’r elfennau a ganlyn fod wedi eu gwneud o laswellt cyfnerthedig hydraidd—
(a)y ffordd fynediad argyfwng;
(b)cilfan yr is-orsaf.
(2) Os cânt eu hadeiladu rhaid i’r elfennau a ganlyn fod wedi eu gwneud o ddeunydd hydraidd—
(a)llwybrau troed;
(b)meysydd parcio.
(3) Os cânt eu hadeiladu rhaid i’r elfennau a ganlyn fod wedi eu gwneud o ddeunydd anhydraidd ac wedi eu hadeiladu i atal llygryddion rhag mynd i’r ddaear—
(a)pob ffordd heblaw’r ffordd fynediad argyfwng;
(b)y llain ddanfoniadau;
(c)yr ardal arolygu cerbydau;
(d)yr ardal cwarantin cerbydau.
9.—(1) Rhaid i doeon adeiladau fod wedi eu gorffen yn un o’r lliwiau a ganlyn—
(a)S 3005-Y20R;
(b)S 3005-R80B;
(c)S 7010-Y90R;
(d)S 3502-R;
(e)S 3005-G50Y.
(2) Rhaid i ffasadau adeiladau, ffensys diogelwch a ffensys rhwystro acwstig fod wedi eu gorffen mewn pren naturiol neu yn un o’r lliwiau a ganlyn—
(a)S 2040-G40Y;
(b)S 2005-B20G;
(c)S 3005-Y20R.
(3) Rhaid i elfennau allanol eraill fod wedi eu gorffen yn un o’r lliwiau a ganlyn—
(a)S 2040-G40Y;
(b)S 2005-B20G;
(c)S 3005-Y20R;
(d)S 1515-Y90R;
(e)S 0575-G90Y.
(4) Yn y paragraff hwn, mae “lliwiau” yn cyfeirio at y lliw sy’n cyfateb i’r cod a restrir ar y Natural Colour System®.
(5) Yn is-baragraff (3), mae “elfennau allanol eraill” yn cynnwys—
(a)fframiau ffenestri;
(b)trimiau;
(c)nodweddion pensaernïol;
(d)strwythurau atodol;
(e)canllawiau;
(f)colofnau goleuo;
(g)celfi allanol megis meinciau.
(6) Yn is-baragraff (3), nid yw “elfennau allanol eraill” yn cynnwys paneli solar ffotofoltäig nac offer solar thermol.
(7) Os nad yw unrhyw un neu ragor o’r lliwiau a bennir yn y paragraff hwn ar gael i’w ddefnyddio neu i’w defnyddio ar yr adeg berthnasol, caiff y datblygwr wneud cais i’r awdurdod lleol am gymeradwyaeth berthnasol i ddefnyddio lliw sy’n cydweddu’n agos.
10.—(1) Rhaid gosod unedau goleuadau mor isel at y ddaear ag sy’n ymarferol, ac ni chaiff colofnau goleuo fod yn uwch na 15 metr o uchder uwch datwm ordnans.
(2) Rhaid i unedau goleuadau fod—
(a)o dan gwfl er mwyn cuddio ffynhonnell y golau o’r golwg o’r tu allan i’r ardal ddatblygadwy, a
(b)wedi eu cyfeirio tuag i lawr er mwyn lleihau gollyngiad golau.
(3) Ni chaiff lefelau golau artiffisial fod yn uwch na 0.74 lux wrth fesur o 1 fetr y tu allan i ffin yr ardal ddatblygadwy.
(4) Ni chaiff tymheredd lliw cydberthynol pob golau artiffisial fod yn uwch na 2700 kelvin.
(5) Ni chaiff golau sbectrwm glas o unrhyw ffynhonnell fod yn weladwy o’r brigiad creigiog.
11.—(1) Rhaid i bob gorchudd ar gyfer tyllau archwilio a mannau gwialennu fod wedi eu marcio gyda’r lliw priodol, a rhaid cynnal a chadw’r marciau i sicrhau eu bod i’w gweld yn glir.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), y “lliw priodol” yw—
(a)glas ar gyfer draenio dŵr wyneb, a
(b)coch ar gyfer draenio dŵr brwnt.
12.—(1) Rhaid i’r datblygwr gyflwyno strategaeth arwyddion i’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer cymeradwyaeth berthnasol, a rhaid cael y gymeradwyaeth hon cyn i unrhyw ddefnydd a ganiateir gan erthygl 3(1)(a)(i) gychwyn.
(2) Rhaid i’r strategaeth arwyddion amlinellu sut y bydd yr arwyddion yn—
(a)cyfeirio cerbydau i ddynesu at y tir ac ymadael â’r tir gan ddefnyddio ffordd feingefn Parc Cybi o’r gyffordd sy’n cysylltu â chefnffordd yr A55, a
(b)annog cerbydau rhag defnyddio ffordd Lôn Trefignath o’i chyffordd â’r tir hyd at ei chyffordd â Lon Towyn Capel.
(3) Rhaid i’r holl arwyddion a gymeradwyir yn y gymeradwyaeth berthnasol gael eu codi.
13.—(1) Rhaid i’r datblygwr benodi cydlynydd cynllun teithio i oruchwylio’r cynllun teithio y cyfeirir ato ym mharagraff 27.
(2) Rhaid i’r datblygwr hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol mewn ysgrifen am enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost cydlynydd y cynllun teithio o fewn un mis gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir y penodiad.
14.—(1) Rhaid gwella’r tirlunio presennol.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), ystyr “gwella” yw mynd i’r afael ag erydiad ac ardaloedd tenau ac ysbeidiol yn y tirlunio presennol drwy fesurau sy’n cynnwys—
(a)crafu;
(b)gwrteithio’r pridd;
(c)tocio a ffurfio;
(d)torri pren marw;
(e)rhwygo a phalu i atal cywasgu.
15.—(1) Rhaid plannu tirlunio newydd sy’n cynnwys rhywogaethau coed a llwyni brodorol cymysg rhwng y tirlunio presennol a ffin yr ardal ddatblygadwy.
(2) Dylai lleoliad y tirlunio newydd alinio mor agos ag sy’n ymarferol â’r ardal dirlunio newydd a ddangosir ar y map.
(3) Rhaid i’r tirlunio presennol a’r ardal dirlunio newydd, wrth fesur o ffin y tir, fod o leiaf 10 metr o ddyfnder.
(4) Pan fo’r ardal dirlunio newydd yn rhannu’n ddwy gainc fel y dangosir ar y map, gydag un gainc yn gyfochrog ag ymyl yr ardal ddatblygadwy a’r llall yn gyfochrog â’r tirlunio presennol wrth ymyl ffin y tir, mae’r dyfnder o 10 metr i’w fesur fel dyfnder cyfunedig y ddwy gainc o’r ardal dirlunio newydd a’r tirlunio presennol.
(5) At ddibenion is-baragraff (1), ystyr “rhywogaethau coed a llwyni brodorol cymysg” yw unrhyw blanhigion yn y rhestr a geir yn Rhan 4.
16.—(1) Rhaid i’r datblygwr gyflwyno “cynllun cynnal a chadw tirlunio” i’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer cymeradwyaeth berthnasol, a rhaid cael y gymeradwyaeth hon cyn i unrhyw ddefnydd a ganiateir gan erthygl 3(1)(a)(i) gychwyn.
(2) Rhaid i’r cynllun cynnal a chadw tirlunio gynnwys—
(a)rhaglen ar gyfer monitro planhigion sy’n methu;
(b)gofyniad—
(i)bod rhaid rhoi planhigion newydd yn flynyddol yn lle unrhyw blanhigion sy’n methu, a dylai’r planhigion newydd fod yn seiliedig ar dystiolaeth o rywogaethau sy’n ymsefydlu’n llwyddiannus;
(ii)bod rhaid cadw’r tirlunio mor rhydd o chwyn ag sy’n ymarferol;
(iii)y caiff ffensys da byw eu codi i ddiogelu planhigion newydd.
17.—(1) Rhaid gosod mesurau gostegu sŵn a rhaid iddynt fod yn hollol weithredol.
(2) Rhaid i’r datblygwr gael cymeradwyaeth berthnasol yn cadarnhau bod y mesurau gostegu sŵn yn ddigonol i sicrhau na fydd lefelau sŵn ym mhob un o’r derbynyddion preswyl yn uwch na’r lefelau ar yr amseroedd cyfatebol o’r dydd a amlinellir yn Nhabl 3 ym mharagraff 29.
(3) Yn y paragraff hwn, mae “mesurau gostegu sŵn” yn cynnwys ffensys gostegu sŵn a rheolaethau rheoli ardal ddatblygadwy.
18.—(1) Rhaid i wastraff gael ei waredu a dŵr ddraenio o’r datblygiad, naill ai o adeiladau neu o arwynebau caled, drwy’r system ddraenio briodol.
(2) Y system ddraenio briodol yw SDdG ar gyfer dŵr ffo o’r elfennau a amlinellir yng ngholofn (1) yn Nhabl 2, gyda cholofn (2) yn nodi’r dull draenio.
| (1) Elfen | (2) Y dull draenio |
|---|---|
| Ffyrdd mynediad | Casglu gan stripiau hidlo a phantiau neu ddraeniau hidlo i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr. |
| Y llain ddanfoniadau a pharcio i gerbydau nwyddau trwm | Casglu drwy ddraenio llinellol gyda gwahanydd olew i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr. |
| Meysydd parcio | Ymdreiddio i’r ddaear drwy balmant hydraidd a’r gweddill i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr. |
| Llwybrau troed | Ymdreiddio i’r ddaear drwy balmant hydraidd a’r gweddill i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr. |
| Yr ardal cwarantin cerbydau | Casglu drwy ddraenio llinellol gyda gwahanydd olew i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr. |
| Dŵr o doeon | Casglu drwy bibellau dŵr i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr. |
| Ffordd fynediad argyfwng | Draenio uniongyrchol i’r ddaear. |
| Cilfan yr is-orsaf | Draenio uniongyrchol i’r ddaear. |
| Ardaloedd wedi eu tirlunio | Draenio uniongyrchol i’r ddaear. |
(3) Y garthffos dŵr brwnt yw’r system ddraenio briodol ar gyfer—
(a)dŵr brwnt domestig o—
(i)swyddfeydd ac ardaloedd lles adeiladau arolygu,
(ii)adeiladau lles gyrwyr, a
(iii)adeiladau lles staff;
(b)elifion masnach o—
(i)ardaloedd arolygu ar gyfer planhigion, cynnyrch ac anifeiliaid bach, a
(ii)storfeydd biniau allanol.
(4) Y garthffos dŵr brwnt neu ddraenio i danciau cadw dros dro er mwyn eu symud ymaith gan dancer yw’r system ddraenio briodol ar gyfer elifion masnach o—
(a)ardaloedd arolygu ar gyfer anifeiliaid mawr gan gynnwys ceffylau, a
(b)storfeydd gwastraff anifeiliaid allanol.
(5) Yn yr amod hwn, ystyr “SDdG” yw system ddraenio gynaliadwy ar gyfer rheoli dŵr glaw, gan gynnwys eira a mathau eraill o ddyddodiad, gyda’r nod o—
(a)lleihau’r difrod gan lifogydd,
(b)gwella ansawdd dŵr,
(c)diogelu a gwella’r amgylchedd,
(d)gwarchod iechyd a diogelwch, ac
(e)sicrhau sefydlogrwydd a chydnerthedd systemau draenio.
19. Rhaid i offer gorlifo fod ar gael yn yr ardal ddatblygadwy ar bob adeg a rhaid iddynt fod â chapasiti gofynnol cyfunedig sy’n ddigonol i amsugno 1500 litr o gemegau ac olewau.
20.—(1) Rhaid storio gwastraff peryglus mewn ardal sy’n ddiogel, yn anhydraidd ac sydd wedi ei gorchuddio.
(2) Rhaid storio gwastraff peryglus hylifol mewn ardal wedi ei byndio sy’n ddigonol i ddal 110% o gyfanswm cyfaint yr hylif.
21. Rhaid storio gwastraff anifeiliaid a phlanhigion, gan gynnwys anifeiliaid meirw a phan fo’n briodol nwyddau yr ymafaelwyd ynddynt, mewn cynwysyddion anhydraidd y gellir eu selio yn llwyr pan fydd y gwastraff hwnnw yn yr ardal ddatblygadwy ac wrth ei symud ymaith o’r ardal ddatblygadwy.
22.—(1) Rhaid cadw tail mewn storfa ddiddos sy’n atal fermin ac sydd ag arwyneb anhydraidd a system ddraenio wedi ei selio i atal dŵr ffo.
(2) Rhaid bod gan y storfa a ddisgrifir yn is-baragraff (1) awyru digonol i atal nwyon rhag cronni.
23. Rhaid i danciau tanwydd fod wedi eu lleoli uwchben lefel y ddaear.
24. Rhaid i unrhyw destun ar arwydd a ganiateir neu sy’n ofynnol gan neu o dan y Gorchymyn hwn fod yn Gymraeg ac yn Saesneg a rhaid rhoi’r testun Cymraeg yn gyntaf.
25.—(1) Os yw’r ffensys sy’n amgáu’r brigiad creigiog sy’n ofynnol gan baragraff 1(1) yn cael eu cadw neu eu hamnewid ar ôl i unrhyw ddefnydd a ganiateir gan erthygl 3(1)(a)(i) gychwyn, mae’r amod yn is-baragraff (2) yn gymwys.
(2) Rhaid i’r ffensys fod—
(a)yn ffensys atal da byw a wnaed o wifrau galfanedig gyda physt heb eu paentio a wnaed o bren ac sy’n llai nag 1.5 metr o uchder, neu
(b)wedi eu gorffen yn y palet lliw a nodir ym mharagraff 9(2).
(3) Ni chaniateir unrhyw offer, peiriannau, deunyddiau nac eitemau eraill ar y brigiad creigiog heblaw er mwyn codi neu gynnal a chadw’r ffensys yn ôl yr angen.
26. Rhaid i gerbydau sy’n mynd i’r tir wneud hynny drwy fynedfa’r safle heblaw mewn argyfwng pryd y caniateir defnyddio’r fynedfa argyfwng sydd wedi ei marcio ar y map â dwy saeth las yng nghornel ogledd-ddwyreiniol yr ardal ddatblygadwy a’r tir.
27.—(1) Rhaid i’r cynllun teithio gael ei adolygu a’i ddiweddaru i gynnwys amcanion clir a thargedau o ran dulliau teithio (“y cynllun teithio diwygiedig”).
(2) Rhaid i’r cynllun teithio diwygiedig hefyd gynnwys—
(a)llinell amser ar gyfer gweithredu’r rhaglen, a
(b)manylion ynghylch sut y caiff yr amcanion a’r targedau eu monitro, eu hadolygu a’u diweddaru.
(3) Rhaid cyflwyno’r cynllun teithio diwygiedig i’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer cymeradwyaeth berthnasol o fewn y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r defnydd cyntaf a ganiateir gan erthygl 3(1)(a)(i), a rhaid gweithredu’r cynllun teithio diwygiedig yn unol â’r gymeradwyaeth hon.
(4) Rhaid i’r cynllun teithio wedi ei ddiweddaru fod ar gael i edrych arno ym mhrif swyddfa’r datblygwr ac ar ei wefan.
(5) At ddibenion y paragraff hwn, ystyr y “cynllun teithio” yw Datganiad Trafnidiaeth Safle Rheoli ar y Ffin Gogledd Cymru—
(a)a luniwyd gan Mott Macdonald,
(b)dyddiedig Rhagfyr 2022, ac
(c)sydd â’r rhif dogfen BCP22-005-00-01.
(6) Rhaid hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol ynghylch unrhyw newidiadau i fanylion cydlynydd y cynllun teithio o fewn un mis i’r newid.
(7) At ddibenion is-baragraff (6), ystyr “manylion cydlynydd y cynllun teithio” yw’r wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff 13(2).
28. Rhaid cynnal a chadw a rheoli’r tirlunio presennol sydd wedi ei wella yn unol â pharagraff 14(1) a’r tirlunio newydd a ddarperir yn unol â pharagraff 15 yn unol â’r cynllun cynnal a chadw tirlunio, am oes unrhyw ddefnydd o’r datblygiad a ganiateir gan erthygl 3(1)(a)(i), er mwyn sicrhau ei iechyd parhaus.
29.—(1) Ni chaiff y lefelau sŵn ym mhob un o’r derbynyddion preswyl fod yn fwy na’r lefelau desibel ar yr amseroedd cyfatebol o’r dydd a amlinellir yn Nhabl 3.
| Derbynnydd | Terfyn sŵn yn ystod y dydd | Terfyn sŵn yn ystod y nos |
|---|---|---|
| (dB LAeq, 1awr) | (dB LAeq, 1awr) | |
| Kingsland Road | 54 | 39 |
| Penrhyn Geiriol | 43 | 42 |
| Tyddyn-Uchaf | 41 | 41 |
(2) Yn Nhabl 3—
(a)ystyr “yn ystod y dydd” yw 7:00 i 22:59, a
(b)ystyr “yn ystod y nos” yw 23:00 i 6:59.
30. Ni chaiff injan cerbyd segura pan fo’r cerbyd yn llonydd am fwy na 5 munud.
31.—(1) Pan gynigir cynnal gweithgaredd newydd ar y tir rhaid i’r datblygwr gyflwyno astudiaeth sŵn i’r awdurdod cynllunio lleol a chael cymeradwyaeth berthnasol cyn y caiff y gweithgaredd newydd gychwyn.
(2) Rhaid i’r astudiaeth sŵn amlinellu a fydd y gweithgaredd newydd yn peri newid negyddol i gymeriad acwstig yr allbwn sŵn o’r tir.
(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “gweithgaredd newydd” yw—
(a)codi adeilad newydd,
(b)ychwanegu arwyneb caled newydd,
(c)ychwanegu cyfarpar neu beiriannau newydd, neu
(d)pan fo adeilad neu arwyneb caled presennol i’w ddefnyddio at ddiben gwahanol,
pan fo’r rhain wedi digwydd ar ôl cael y gymeradwyaeth berthnasol sy’n ofynnol gan baragraff 17(2).
(4) Yn is-baragraff (2), mae newid i gymeriad acwstig yn cynnwys cynnydd o ran—
(a)sŵn amledd isel;
(b)sŵn tonaidd;
(c)ysbeidiolrwydd sŵn.
32.—(1) Cyn i unrhyw adeilad newydd, adeilad a ddefnyddir at ddibenion gwahanol, neu ardal o arwyneb caled gael ei feddiannu neu ei meddiannu am y tro cyntaf, neu ei ddefnyddio neu ei defnyddio am y tro cyntaf, at unrhyw ddiben a ganiateir gan erthygl 3(1)(a)(i) rhaid iddo neu iddi fod yn gysylltiedig â’r system ddraenio briodol.
(2) Yn is-baragraff (1), ystyr y “system ddraenio briodol” yw’r system ym mharagraff 18 sy’n gymwys i’r elfen newydd.
| Math o dirwedd | Enw’r planhigyn |
|---|---|
| Sgrin goetir | Salix alba Populus tremula Pinus sylvestris Betula pendula Alnus glutinosa Acer pseudoplatanus Prunus avium Acer campestre Ilex aquifolium Cornus sanguinea Ligustrum vulgare Sambucus nigra |
| Sgrin goetir wleb | Salix alba Populus tremula Alnus glutinosa Salix caprea Sambucus nigra |
| Sgrin ymyl coetir | Betula pendula Salix caprea Corylus avellana Cornus sanguinea Crataegus monogyna Prunus spinosa Rosa canina |
| Coeden sbesimen – gwlyptir | Salix alba Populus tremula |
| Coeden sbesimen – brigiad creigiog | Betula pendula Sorbus aucuparia |
| Coeden sbesimen – allanfa argyfwng | Acer pseudoplatanus Prunus avium Quercus robur |
| Brigiad creigiog | Ulex europaeus Cytisus scoparius |
| Mewnol addurniadol | Aucuba japonica Sarcococca hookeriana Var. ‘Humilis’ Skimmia japonica Olearia x haastii Pig yr aran ‘Orion’ Vinca minor Clychau’r gog cyffredin Eirlys Briallen Llysiau’r neidr Llysiau’r ysgyfaint Ffenigl-y-moch gwridog Briallen Fair |
| Hadu blodau gwyllt | Briallen Llysiau’r neidr Llysiau’r ysgyfaint Ffenigl-y-moch gwridog Briallen Fair Blodyn neidr Meillionen goch Gludlys nos-flodeuol Brigwellt garw Cedowydd Clychlys dail danadl Y feddyges las Byddon chwerw Llysiau’r angel Creithig bêr Carpiog y gors Clychlys clystyrog Clychlys dail danadl Pysen-y-ceirw Cyfardwf Llysiau’r-milwr coch Y bengaled Clafrllys y maes Llygad-llo mawr Bwrned Y feddyges las Blodyn ymenyn Blodyn neidr Maeswellt cyffredin Rhonwellt y ci Peiswellt coch Rhonwellt penfain Gweunwellt llyfn Milddail Erwain Briwydd felen Mapgoll glan y dŵr Gellesgen Pysen-y-ceirw fawr Llyriad yr ais Cedowydd Cribell felen Suran y cŵn Bwrned mawr Ffeingl yr hwch Dant y llew Arianllys Ffacbysen y berth Cynffonwellt y maes Perwellt y gwanwyn Crydwellt Brigwellt garw Haidd y maes |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: