YR ATODLENAmodau

RHAN 3Amodau eraill

Rheoli llygredd

Offer gorlifo19

Rhaid i offer gorlifo fod ar gael yn yr ardal ddatblygadwy ar bob adeg a rhaid iddynt fod â chapasiti gofynnol cyfunedig sy’n ddigonol i amsugno 1500 litr o gemegau ac olewau.

Tanwydd, gwastraff peryglus, gwastraff anifeiliaid a thail

20

1

Rhaid storio gwastraff peryglus mewn ardal sy’n ddiogel, yn anhydraidd ac sydd wedi ei gorchuddio.

2

Rhaid storio gwastraff peryglus hylifol mewn ardal wedi ei byndio sy’n ddigonol i ddal 110% o gyfanswm cyfaint yr hylif.

21

Rhaid storio gwastraff anifeiliaid a phlanhigion, gan gynnwys anifeiliaid meirw a phan fo’n briodol nwyddau yr ymafaelwyd ynddynt, mewn cynwysyddion anhydraidd y gellir eu selio yn llwyr pan fydd y gwastraff hwnnw yn yr ardal ddatblygadwy ac wrth ei symud ymaith o’r ardal ddatblygadwy.

22

1

Rhaid cadw tail mewn storfa ddiddos sy’n atal fermin ac sydd ag arwyneb anhydraidd a system ddraenio wedi ei selio i atal dŵr ffo.

2

Rhaid bod gan y storfa a ddisgrifir yn is-baragraff (1) awyru digonol i atal nwyon rhag cronni.

23

Rhaid i danciau tanwydd fod wedi eu lleoli uwchben lefel y ddaear.

Arwyddion24

Rhaid i unrhyw destun ar arwydd a ganiateir neu sy’n ofynnol gan neu o dan y Gorchymyn hwn fod yn Gymraeg ac yn Saesneg a rhaid rhoi’r testun Cymraeg yn gyntaf.

Y brigiad creigiog25

1

Os yw’r ffensys sy’n amgáu’r brigiad creigiog sy’n ofynnol gan baragraff 1(1) yn cael eu cadw neu eu hamnewid ar ôl i unrhyw ddefnydd a ganiateir gan erthygl 3(1)(a)(i) gychwyn, mae’r amod yn is-baragraff (2) yn gymwys.

2

Rhaid i’r ffensys fod—

a

yn ffensys atal da byw a wnaed o wifrau galfanedig gyda physt heb eu paentio a wnaed o bren ac sy’n llai nag 1.5 metr o uchder, neu

b

wedi eu gorffen yn y palet lliw a nodir ym mharagraff 9(2).

3

Ni chaniateir unrhyw offer, peiriannau, deunyddiau nac eitemau eraill ar y brigiad creigiog heblaw er mwyn codi neu gynnal a chadw’r ffensys yn ôl yr angen.

Mynediad i gerbydau26

Rhaid i gerbydau sy’n mynd i’r tir wneud hynny drwy fynedfa’r safle heblaw mewn argyfwng pryd y caniateir defnyddio’r fynedfa argyfwng sydd wedi ei marcio ar y map â dwy saeth las yng nghornel ogledd-ddwyreiniol yr ardal ddatblygadwy a’r tir.

Y cynllun teithio27

1

Rhaid i’r cynllun teithio gael ei adolygu a’i ddiweddaru i gynnwys amcanion clir a thargedau o ran dulliau teithio (“y cynllun teithio diwygiedig”).

2

Rhaid i’r cynllun teithio diwygiedig hefyd gynnwys—

a

llinell amser ar gyfer gweithredu’r rhaglen, a

b

manylion ynghylch sut y caiff yr amcanion a’r targedau eu monitro, eu hadolygu a’u diweddaru.

3

Rhaid cyflwyno’r cynllun teithio diwygiedig i’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer cymeradwyaeth berthnasol o fewn y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r defnydd cyntaf a ganiateir gan erthygl 3(1)(a)(i), a rhaid gweithredu’r cynllun teithio diwygiedig yn unol â’r gymeradwyaeth hon.

4

Rhaid i’r cynllun teithio wedi ei ddiweddaru fod ar gael i edrych arno ym mhrif swyddfa’r datblygwr ac ar ei wefan.

5

At ddibenion y paragraff hwn, ystyr y “cynllun teithio” yw Datganiad Trafnidiaeth Safle Rheoli ar y Ffin Gogledd Cymru—

a

a luniwyd gan Mott Macdonald,

b

dyddiedig Rhagfyr 2022, ac

c

sydd â’r rhif dogfen BCP22-005-00-01.

6

Rhaid hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol ynghylch unrhyw newidiadau i fanylion cydlynydd y cynllun teithio o fewn un mis i’r newid.

7

At ddibenion is-baragraff (6), ystyr “manylion cydlynydd y cynllun teithio” yw’r wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff 13(2).

Tirlunio28

Rhaid cynnal a chadw a rheoli’r tirlunio presennol sydd wedi ei wella yn unol â pharagraff 14(1) a’r tirlunio newydd a ddarperir yn unol â pharagraff 15 yn unol â’r cynllun cynnal a chadw tirlunio, am oes unrhyw ddefnydd o’r datblygiad a ganiateir gan erthygl 3(1)(a)(i), er mwyn sicrhau ei iechyd parhaus.

Gostegu sŵn

Rheoli lefelau sŵn29

1

Ni chaiff y lefelau sŵn ym mhob un o’r derbynyddion preswyl fod yn fwy na’r lefelau desibel ar yr amseroedd cyfatebol o’r dydd a amlinellir yn Nhabl 3.

Tabl 3

Derbynnydd

Terfyn sŵn yn ystod y dydd

Terfyn sŵn yn ystod y nos

(dB LAeq, 1awr)

(dB LAeq, 1awr)

Kingsland Road

54

39

Penrhyn Geiriol

43

42

Tyddyn-Uchaf

41

41

2

Yn Nhabl 3—

a

ystyr “yn ystod y dydd” yw 7:00 i 22:59, a

b

ystyr “yn ystod y nos” yw 23:00 i 6:59.

Segura30

Ni chaiff injan cerbyd segura pan fo’r cerbyd yn llonydd am fwy na 5 munud.

Cymeradwyaeth berthnasol ar gyfer gweithgaredd newydd31

1

Pan gynigir cynnal gweithgaredd newydd ar y tir rhaid i’r datblygwr gyflwyno astudiaeth sŵn i’r awdurdod cynllunio lleol a chael cymeradwyaeth berthnasol cyn y caiff y gweithgaredd newydd gychwyn.

2

Rhaid i’r astudiaeth sŵn amlinellu a fydd y gweithgaredd newydd yn peri newid negyddol i gymeriad acwstig yr allbwn sŵn o’r tir.

3

Yn y paragraff hwn, ystyr “gweithgaredd newydd” yw—

a

codi adeilad newydd,

b

ychwanegu arwyneb caled newydd,

c

ychwanegu cyfarpar neu beiriannau newydd, neu

d

pan fo adeilad neu arwyneb caled presennol i’w ddefnyddio at ddiben gwahanol,

pan fo’r rhain wedi digwydd ar ôl cael y gymeradwyaeth berthnasol sy’n ofynnol gan baragraff 17(2).

4

Yn is-baragraff (2), mae newid i gymeriad acwstig yn cynnwys cynnydd o ran—

a

sŵn amledd isel;

b

sŵn tonaidd;

c

ysbeidiolrwydd sŵn.

Rheoli gwastraff a draenio32

1

Cyn i unrhyw adeilad newydd, adeilad a ddefnyddir at ddibenion gwahanol, neu ardal o arwyneb caled gael ei feddiannu neu ei meddiannu am y tro cyntaf, neu ei ddefnyddio neu ei defnyddio am y tro cyntaf, at unrhyw ddiben a ganiateir gan erthygl 3(1)(a)(i) rhaid iddo neu iddi fod yn gysylltiedig â’r system ddraenio briodol.

2

Yn is-baragraff (1), ystyr y “system ddraenio briodol” yw’r system ym mharagraff 18 sy’n gymwys i’r elfen newydd.