YR ATODLENAmodau

RHAN 2Amodau cyn y defnydd cyntaf at ddibenion rheoli ar y ffin

Rheoli traffig12

1

Rhaid i’r datblygwr gyflwyno strategaeth arwyddion i’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer cymeradwyaeth berthnasol, a rhaid cael y gymeradwyaeth hon cyn i unrhyw ddefnydd a ganiateir gan erthygl 3(1)(a)(i) gychwyn.

2

Rhaid i’r strategaeth arwyddion amlinellu sut y bydd yr arwyddion yn—

a

cyfeirio cerbydau i ddynesu at y tir ac ymadael â’r tir gan ddefnyddio ffordd feingefn Parc Cybi o’r gyffordd sy’n cysylltu â chefnffordd yr A55, a

b

annog cerbydau rhag defnyddio ffordd Lôn Trefignath o’i chyffordd â’r tir hyd at ei chyffordd â Lon Towyn Capel.

3

Rhaid i’r holl arwyddion a gymeradwyir yn y gymeradwyaeth berthnasol gael eu codi.

Cydlynydd cynllun teithio13

1

Rhaid i’r datblygwr benodi cydlynydd cynllun teithio i oruchwylio’r cynllun teithio y cyfeirir ato ym mharagraff 27.

2

Rhaid i’r datblygwr hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol mewn ysgrifen am enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost cydlynydd y cynllun teithio o fewn un mis gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir y penodiad.

Tirlunio

14

1

Rhaid gwella’r tirlunio presennol.

2

At ddibenion is-baragraff (1), ystyr “gwella” yw mynd i’r afael ag erydiad ac ardaloedd tenau ac ysbeidiol yn y tirlunio presennol drwy fesurau sy’n cynnwys—

a

crafu;

b

gwrteithio’r pridd;

c

tocio a ffurfio;

d

torri pren marw;

e

rhwygo a phalu i atal cywasgu.

15

1

Rhaid plannu tirlunio newydd sy’n cynnwys rhywogaethau coed a llwyni brodorol cymysg rhwng y tirlunio presennol a ffin yr ardal ddatblygadwy.

2

Dylai lleoliad y tirlunio newydd alinio mor agos ag sy’n ymarferol â’r ardal dirlunio newydd a ddangosir ar y map.

3

Rhaid i’r tirlunio presennol a’r ardal dirlunio newydd, wrth fesur o ffin y tir, fod o leiaf 10 metr o ddyfnder.

4

Pan fo’r ardal dirlunio newydd yn rhannu’n ddwy gainc fel y dangosir ar y map, gydag un gainc yn gyfochrog ag ymyl yr ardal ddatblygadwy a’r llall yn gyfochrog â’r tirlunio presennol wrth ymyl ffin y tir, mae’r dyfnder o 10 metr i’w fesur fel dyfnder cyfunedig y ddwy gainc o’r ardal dirlunio newydd a’r tirlunio presennol.

5

At ddibenion is-baragraff (1), ystyr “rhywogaethau coed a llwyni brodorol cymysg” yw unrhyw blanhigion yn y rhestr a geir yn Rhan 4.

16

1

Rhaid i’r datblygwr gyflwyno “cynllun cynnal a chadw tirlunio” i’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer cymeradwyaeth berthnasol, a rhaid cael y gymeradwyaeth hon cyn i unrhyw ddefnydd a ganiateir gan erthygl 3(1)(a)(i) gychwyn.

2

Rhaid i’r cynllun cynnal a chadw tirlunio gynnwys—

a

rhaglen ar gyfer monitro planhigion sy’n methu;

b

gofyniad—

i

bod rhaid rhoi planhigion newydd yn flynyddol yn lle unrhyw blanhigion sy’n methu, a dylai’r planhigion newydd fod yn seiliedig ar dystiolaeth o rywogaethau sy’n ymsefydlu’n llwyddiannus;

ii

bod rhaid cadw’r tirlunio mor rhydd o chwyn ag sy’n ymarferol;

iii

y caiff ffensys da byw eu codi i ddiogelu planhigion newydd.

Mesurau gostegu sŵn17

1

Rhaid gosod mesurau gostegu sŵn a rhaid iddynt fod yn hollol weithredol.

2

Rhaid i’r datblygwr gael cymeradwyaeth berthnasol yn cadarnhau bod y mesurau gostegu sŵn yn ddigonol i sicrhau na fydd lefelau sŵn ym mhob un o’r derbynyddion preswyl yn uwch na’r lefelau ar yr amseroedd cyfatebol o’r dydd a amlinellir yn Nhabl 3 ym mharagraff 29.

3

Yn y paragraff hwn, mae “mesurau gostegu sŵn” yn cynnwys ffensys gostegu sŵn a rheolaethau rheoli ardal ddatblygadwy.

Rheoli gwastraff a draenio18

1

Rhaid i wastraff gael ei waredu a dŵr ddraenio o’r datblygiad, naill ai o adeiladau neu o arwynebau caled, drwy’r system ddraenio briodol.

2

Y system ddraenio briodol yw SDdG ar gyfer dŵr ffo o’r elfennau a amlinellir yng ngholofn (1) yn Nhabl 2, gyda cholofn (2) yn nodi’r dull draenio.

Tabl 2

(1) Elfen

(2) Y dull draenio

Ffyrdd mynediad

Casglu gan stripiau hidlo a phantiau neu ddraeniau hidlo i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr.

Y llain ddanfoniadau a pharcio i gerbydau nwyddau trwm

Casglu drwy ddraenio llinellol gyda gwahanydd olew i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr.

Meysydd parcio

Ymdreiddio i’r ddaear drwy balmant hydraidd a’r gweddill i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr.

Llwybrau troed

Ymdreiddio i’r ddaear drwy balmant hydraidd a’r gweddill i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr.

Yr ardal cwarantin cerbydau

Casglu drwy ddraenio llinellol gyda gwahanydd olew i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr.

Dŵr o doeon

Casglu drwy bibellau dŵr i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr.

Ffordd fynediad argyfwng

Draenio uniongyrchol i’r ddaear.

Cilfan yr is-orsaf

Draenio uniongyrchol i’r ddaear.

Ardaloedd wedi eu tirlunio

Draenio uniongyrchol i’r ddaear.

3

Y garthffos dŵr brwnt yw’r system ddraenio briodol ar gyfer—

a

dŵr brwnt domestig o—

i

swyddfeydd ac ardaloedd lles adeiladau arolygu,

ii

adeiladau lles gyrwyr, a

iii

adeiladau lles staff;

b

elifion masnach o—

i

ardaloedd arolygu ar gyfer planhigion, cynnyrch ac anifeiliaid bach, a

ii

storfeydd biniau allanol.

4

Y garthffos dŵr brwnt neu ddraenio i danciau cadw dros dro er mwyn eu symud ymaith gan dancer yw’r system ddraenio briodol ar gyfer elifion masnach o—

a

ardaloedd arolygu ar gyfer anifeiliaid mawr gan gynnwys ceffylau, a

b

storfeydd gwastraff anifeiliaid allanol.

5

Yn yr amod hwn, ystyr “SDdG” yw system ddraenio gynaliadwy ar gyfer rheoli dŵr glaw, gan gynnwys eira a mathau eraill o ddyddodiad, gyda’r nod o—

a

lleihau’r difrod gan lifogydd,

b

gwella ansawdd dŵr,

c

diogelu a gwella’r amgylchedd,

d

gwarchod iechyd a diogelwch, ac

e

sicrhau sefydlogrwydd a chydnerthedd systemau draenio.