YR ATODLENAmodau
RHAN 1Amodau ar weithrediadau adeiladu
Amgáu’r brigiad creigiog1
1
Rhaid amgáu’r brigiad creigiog gyda ffensys o amgylch ei derfyn allanol.
2
Ni chaniateir unrhyw ddatblygu hyd nes y cydymffurfir â’r amod yn is-baragraff (1), ac eithrio darparu goleuadau, ffensys neu arwyddion.
Oriau adeiladu2
1
Ni chaniateir gwneud y gwaith adeiladu a restrir yn is-baragraff (2) ond rhwng yr oriau a ganlyn—
a
0700 a 1900 yn ystod yr wythnos, a
b
0700 a 1300 ar ddydd Sadwrn.
2
Unrhyw—
a
symud daear;
b
drilio, torri neu ffrwydro;
c
gosod arwyneb caled;
d
defnyddio cerbydau neu gyfarpar gyda larymau bacio.
Terfynau sŵn a therfynau dirgryniad3
1
Ni chaiff lefelau sŵn yn ystod gwaith adeiladu fod yn uwch na 65dB (LAeq, 1awr).
2
Ni chaiff lefel dirgryniad y ddaear fod yn uwch nag—
a
cyflymder uchaf gronynnau o 10 milimedr yr eiliad;
b
cyflymder uchaf gronynnau o 1 milimedr yr eiliad ar 10 neu ragor o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 15 niwrnod yn olynol.
3
Rhaid mesur terfynau sŵn a dirgryniad o 1 fetr i ffwrdd o unrhyw wedd derbynnydd preswyl.
Rheoli traffig adeiladu4
1
Rhaid cydymffurfio â’r amod hwn yn ystod unrhyw ddatblygu a ganiateir gan erthygl 3(1)(b) neu (c).
2
Rhaid codi arwyddion dros dro er mwyn—
a
cyfeirio cerbydau adeiladu i ddynesu at y tir ac ymadael â’r tir gan ddefnyddio ffordd feingefn Parc Cybi o’r gyffordd sy’n cysylltu â chefnffordd yr A55, a
b
annog cerbydau rhag defnyddio ffordd Lôn Trefignath o’i chyffordd â’r tir hyd at ei chyffordd â Lon Towyn Capel.
3
Rhaid darparu mannau parcio o fewn yr ardal ddatblygadwy sy’n ddigonol i atal parcio gorlif ar ffordd feingefn Parc Cybi.
4
Rhaid darparu lle ar gyfer llwytho a dadlwytho o fewn yr ardal ddatblygadwy sy’n ddigonol i atal y gweithgaredd hwn rhag digwydd ar ffordd feingefn Parc Cybi.
5
Rhaid i gyfleusterau golchi olwynion fod ar gael a rhaid iddynt gael eu gweithredu i atal mwd a malurion rhag cael eu dyddodi ar y briffordd, a phan fo dyddodion yn digwydd, rhaid i’r datblygwr sicrhau bod y briffordd yn cael ei sgubo.
Goleuadau adeiladu5
1
Rhaid cydymffurfio â’r amod hwn yn ystod unrhyw ddatblygu a ganiateir gan erthygl 3(1)(b) neu (c).
2
Ni chaniateir defnyddio goleuadau artiffisial ond pan fo hynny’n angenrheidiol.
3
Rhaid cyfeirio unedau goleuadau i ffwrdd o bob derbynnydd preswyl.
Diogelu rhag rhywogaethau estron goresgynnol6
Rhaid i fesurau effeithiol fod ar waith i ddiogelu rhag dod â rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid estron goresgynnol ar y tir ar gerbyd neu ar droed.
Uchder adeiladau ac arwynebau caled
7
Ni chaiff uchder adeiladau ar gyfer y parthau a nodir yng ngholofn (1) o Dabl 1 fod yn uwch na’r uchder a nodir yng ngholofn (2).
(1) Parth | (2) Uchder uchaf adeilad |
|---|---|
Parth A | 23 o fetrau |
Parth B | 33 o fetrau |
8
1
Rhaid i’r elfennau a ganlyn fod wedi eu gwneud o laswellt cyfnerthedig hydraidd—
a
y ffordd fynediad argyfwng;
b
cilfan yr is-orsaf.
2
Os cânt eu hadeiladu rhaid i’r elfennau a ganlyn fod wedi eu gwneud o ddeunydd hydraidd—
a
llwybrau troed;
b
meysydd parcio.
3
Os cânt eu hadeiladu rhaid i’r elfennau a ganlyn fod wedi eu gwneud o ddeunydd anhydraidd ac wedi eu hadeiladu i atal llygryddion rhag mynd i’r ddaear—
a
pob ffordd heblaw’r ffordd fynediad argyfwng;
b
y llain ddanfoniadau;
c
yr ardal arolygu cerbydau;
d
yr ardal cwarantin cerbydau.
Yr effaith weledol9
1
Rhaid i doeon adeiladau fod wedi eu gorffen yn un o’r lliwiau a ganlyn—
a
S 3005-Y20R;
b
S 3005-R80B;
c
S 7010-Y90R;
d
S 3502-R;
e
S 3005-G50Y.
2
Rhaid i ffasadau adeiladau, ffensys diogelwch a ffensys rhwystro acwstig fod wedi eu gorffen mewn pren naturiol neu yn un o’r lliwiau a ganlyn—
a
S 2040-G40Y;
b
S 2005-B20G;
c
S 3005-Y20R.
3
Rhaid i elfennau allanol eraill fod wedi eu gorffen yn un o’r lliwiau a ganlyn—
a
S 2040-G40Y;
b
S 2005-B20G;
c
S 3005-Y20R;
d
S 1515-Y90R;
e
S 0575-G90Y.
4
Yn y paragraff hwn, mae “lliwiau” yn cyfeirio at y lliw sy’n cyfateb i’r cod a restrir ar y Natural Colour System®.
5
Yn is-baragraff (3), mae “elfennau allanol eraill” yn cynnwys—
a
fframiau ffenestri;
b
trimiau;
c
nodweddion pensaernïol;
d
strwythurau atodol;
e
canllawiau;
f
colofnau goleuo;
g
celfi allanol megis meinciau.
6
Yn is-baragraff (3), nid yw “elfennau allanol eraill” yn cynnwys paneli solar ffotofoltäig nac offer solar thermol.
7
Os nad yw unrhyw un neu ragor o’r lliwiau a bennir yn y paragraff hwn ar gael i’w ddefnyddio neu i’w defnyddio ar yr adeg berthnasol, caiff y datblygwr wneud cais i’r awdurdod lleol am gymeradwyaeth berthnasol i ddefnyddio lliw sy’n cydweddu’n agos.
Goleuadau10
1
Rhaid gosod unedau goleuadau mor isel at y ddaear ag sy’n ymarferol, ac ni chaiff colofnau goleuo fod yn uwch na 15 metr o uchder uwch datwm ordnans.
2
Rhaid i unedau goleuadau fod—
a
o dan gwfl er mwyn cuddio ffynhonnell y golau o’r golwg o’r tu allan i’r ardal ddatblygadwy, a
b
wedi eu cyfeirio tuag i lawr er mwyn lleihau gollyngiad golau.
3
Ni chaiff lefelau golau artiffisial fod yn uwch na 0.74 lux wrth fesur o 1 fetr y tu allan i ffin yr ardal ddatblygadwy.
4
Ni chaiff tymheredd lliw cydberthynol pob golau artiffisial fod yn uwch na 2700 kelvin.
5
Ni chaiff golau sbectrwm glas o unrhyw ffynhonnell fod yn weladwy o’r brigiad creigiog.
Gorchuddion tyllau archwilio a mannau gwialennu11
1
Rhaid i bob gorchudd ar gyfer tyllau archwilio a mannau gwialennu fod wedi eu marcio gyda’r lliw priodol, a rhaid cynnal a chadw’r marciau i sicrhau eu bod i’w gweld yn glir.
2
At ddibenion is-baragraff (1), y “lliw priodol” yw—
a
glas ar gyfer draenio dŵr wyneb, a
b
coch ar gyfer draenio dŵr brwnt.