YR ATODLENAmodau
RHAN 2Amodau cyn y defnydd cyntaf at ddibenion rheoli ar y ffin
Rheoli gwastraff a draenio18
1
Rhaid i wastraff gael ei waredu a dŵr ddraenio o’r datblygiad, naill ai o adeiladau neu o arwynebau caled, drwy’r system ddraenio briodol.
2
Y system ddraenio briodol yw SDdG ar gyfer dŵr ffo o’r elfennau a amlinellir yng ngholofn (1) yn Nhabl 2, gyda cholofn (2) yn nodi’r dull draenio.
(1) Elfen | (2) Y dull draenio |
|---|---|
Ffyrdd mynediad | Casglu gan stripiau hidlo a phantiau neu ddraeniau hidlo i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr. |
Y llain ddanfoniadau a pharcio i gerbydau nwyddau trwm | Casglu drwy ddraenio llinellol gyda gwahanydd olew i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr. |
Meysydd parcio | Ymdreiddio i’r ddaear drwy balmant hydraidd a’r gweddill i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr. |
Llwybrau troed | Ymdreiddio i’r ddaear drwy balmant hydraidd a’r gweddill i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr. |
Yr ardal cwarantin cerbydau | Casglu drwy ddraenio llinellol gyda gwahanydd olew i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr. |
Dŵr o doeon | Casglu drwy bibellau dŵr i lifo i’r basn crynhoi ac yna i’r cwrs dŵr. |
Ffordd fynediad argyfwng | Draenio uniongyrchol i’r ddaear. |
Cilfan yr is-orsaf | Draenio uniongyrchol i’r ddaear. |
Ardaloedd wedi eu tirlunio | Draenio uniongyrchol i’r ddaear. |
3
Y garthffos dŵr brwnt yw’r system ddraenio briodol ar gyfer—
a
dŵr brwnt domestig o—
i
swyddfeydd ac ardaloedd lles adeiladau arolygu,
ii
adeiladau lles gyrwyr, a
iii
adeiladau lles staff;
b
elifion masnach o—
i
ardaloedd arolygu ar gyfer planhigion, cynnyrch ac anifeiliaid bach, a
ii
storfeydd biniau allanol.
4
Y garthffos dŵr brwnt neu ddraenio i danciau cadw dros dro er mwyn eu symud ymaith gan dancer yw’r system ddraenio briodol ar gyfer elifion masnach o—
a
ardaloedd arolygu ar gyfer anifeiliaid mawr gan gynnwys ceffylau, a
b
storfeydd gwastraff anifeiliaid allanol.
5
Yn yr amod hwn, ystyr “SDdG” yw system ddraenio gynaliadwy ar gyfer rheoli dŵr glaw, gan gynnwys eira a mathau eraill o ddyddodiad, gyda’r nod o—
a
lleihau’r difrod gan lifogydd,
b
gwella ansawdd dŵr,
c
diogelu a gwella’r amgylchedd,
d
gwarchod iechyd a diogelwch, ac
e
sicrhau sefydlogrwydd a chydnerthedd systemau draenio.