(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Creodd ymadawiad y DU â’r UE angen i sefydlu trefniadau newydd o ran rheoli ar y ffin a gwiriadau newydd ar fewnforion. Mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer safle rheoli ar y ffin a pharcio ar gyfer hyd at 60 o gerbydau nwyddau trwm ym Mhlot 9, Parc Cybi, Caergybi.
Mae erthygl 3 yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy’n cynnwys defnyddio tir i brosesu a lleoli cerbydau sy’n dod i mewn i Brydain Fawr neu’n ymadael â hi ym Mhorthladd Caergybi, a darparu cyfleusterau a seilwaith cysylltiedig.
Mae erthygl 4 yn gwahardd unrhyw ddatblygu o fewn brigiad creigiog.
Mae erthygl 5 a’r Atodlen yn pennu’r amodau ar gyfer datblygu’r safle. Rhaid i’r materion yn Rhan 2 o’r Atodlen fod yn weithredol cyn dechrau defnyddio’r safle.
Mae erthygl 6 yn darparu’r broses ar gyfer cael cymeradwyaeth berthnasol gan yr awdurdod cynllunio lleol. Mae cymeradwyaeth berthnasol yn ofynnol gan yr amodau yn Rhan 2 ar gyfer strategaeth arwyddion, ar gyfer cynllun cynnal a chadw tirwedd, mewn perthynas â’r mesurau gostegu sŵn ac er mwyn defnyddio gorffeniadau lliw gwahanol i’r rheini a bennir. Mae cymeradwyaeth berthnasol yn ofynnol gan yr amodau yn Rhan 3 ar gyfer cynllun teithio diwygiedig ac ar gyfer unrhyw astudiaeth sŵn sy’n ofynnol ar gyfer gweithgaredd newydd penodedig ar y safle.
Yn fras, mae’r amodau yn cwmpasu oriau gwaith adeiladu, sŵn a dirgryniad (gan gynnwys terfynau a mesurau gostegu), goleuo, diogelu rhag rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid estron goresgynnol, uchder adeiladau ac arwynebau caled, y brigiad creigiog, ffensys, yr effeithiau gweledol, mynediad, tirlunio, rheoli gwastraff a draenio, rheoli traffig a theithio.
Dangosir y tir y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo ar fap ac mae copi o’r map hwnnw ar gael i edrych arno yn swyddfeydd y Gyfarwyddiaeth Gynllunio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, ar www.llyw.cymru ac yn Cyngor Sir Ynys Môn, yr Adran Cynllunio a Rheoli Adeiladu, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth y Gyfarwyddiaeth Gynllunio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.