Cymeradwyaeth berthnasol6

1

Pan fo amod yn darparu ar gyfer “cymeradwyaeth berthnasol” mae hyn yn golygu cymeradwyaeth a roddir gan yr awdurdod cynllunio lleol mewn ysgrifen.

2

Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn cael cais am gymeradwyaeth berthnasol a’i fod yn ystyried nad yw gwybodaeth ddigonol wedi ei darparu iddo i benderfynu pa un ai i roi’r gymeradwyaeth berthnasol, rhaid iddo roi gwybod i’r ceisydd am yr wybodaeth bellach neu’r dogfennau pellach sy’n ofynnol ganddo.

3

Caiff yr awdurdod cynllunio lleol roi’r gymeradwyaeth berthnasol yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau a rhaid cyflawni’r datblygiad yn unol ag unrhyw amodau a bennir.