Rhoi caniatâd cynllunio3
1
Yn ddarostyngedig i erthyglau 4 a 5, rhoddir caniatâd cynllunio ar gyfer—
a
newid defnydd y tir yn sylweddol at ddiben, neu mewn cysylltiad ag—
i
unrhyw weithgaredd sy’n ffurfio rhan o swyddogaethau, neu sy’n gysylltiedig â swyddogaethau, y mae’n ofynnol eu cyflawni gan neu ar ran adran ffin mewn cysylltiad â cherbydau a nwyddau sy’n dod i mewn i Brydain Fawr neu’n ymadael â hi, neu sydd ar fin dod i mewn i Brydain Fawr neu sydd ar fin ymadael â hi, drwy Borthladd Caergybi, gan gynnwys—
aa
cofnodi cerbydau sy’n mynd i’r ardal ddatblygadwy neu’n ymadael â’r ardal ddatblygadwy;
bb
darparu, adnewyddu, gwirio, ardystio a chymeradwyo datganiadau tollau, trwyddedau a dogfennau eraill sy’n ymwneud â cherbydau a nwyddau;
cc
archwilio nwyddau, ymafael ynddynt a’u cadw;
dd
arolygu cerbydau a nwyddau at unrhyw ddiben cyfreithlon arall;
ee
storio neu ddal nwyddau sy’n cael eu cludo mewn cerbydau;
ff
gwirio cerbydau,
ii
lleoli cerbydau yn gysylltiedig â hynny, ac unrhyw faterion sy’n ategol i hynny, gan gynnwys atgyweiriadau brys i gerbydau, a
iii
mannau parcio a weithredir gan neu ar ran Gweinidogion Cymru neu’r awdurdod lleol, ar gyfer hyd at 60 cerbyd nwyddau trwm;
b
yn yr ardal ddatblygadwy, adeiladu, gosod, darparu, gweithredu, cynnal a chadw, gwella neu addasu, datgomisiynu neu symud ymaith unrhyw adeiladau ac arwynebau caled, a chyflawni unrhyw waith a newidiadau i lefelau’r ddaear, sy’n ofynnol neu a ddarperir mewn cysylltiad â defnyddio’r tir yn unol ag is-baragraff (a), gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddarparu—
i
cyfleusterau ar gyfer gyrwyr cerbydau;
ii
cyfleusterau ar gyfer personau sy’n ymwneud ag unrhyw weithgaredd a ganiateir gan is-baragraff (a);
iii
cyfleusterau diogelwch a derbyn;
iv
ffyrdd a dulliau mynediad eraill;
v
unrhyw brif bibell, pibell, cebl neu gyfarpar arall ar gyfer darparu dŵr, nwy, trydan neu wasanaethau eraill;
vi
unrhyw systemau draenio dŵr brwnt a dŵr wyneb gan gynnwys cwlfertau, ffosydd, pantiau a phyllau;
vii
arwynebau caled;
viii
goleuadau;
ix
ffensys;
x
arwyddion;
xi
tirlunio;
xii
mesurau gostegu sŵn;
xiii
mannau gwefru ac offer cynhyrchu ynni adnewyddadwy;
xiv
mannau parcio a weithredir gan neu ar ran Gweinidogion Cymru neu’r awdurdod lleol, ar gyfer hyd at 60 cerbyd nwyddau trwm;
c
yn yr ardal rhwng ffin yr ardal ddatblygadwy a ffin y tir—
i
tirlunio;
ii
ffensys, ac eithrio ffensys gostegu sŵn;
iii
rheoli gwastraff a draenio;
sy’n ategol i’r gweithgareddau yn is-baragraffau (a) a (b).
2
Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 19957 yn gymwys i’r tir—
a
ac eithrio’r brigiad creigiog, ond
b
os oes gwrthdaro rhwng y Gorchymyn hwn ac unrhyw ddatblygu a ganiateir gan y Gorchymyn hwnnw, mae darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn gymwys.