Prisio hereditamentau2

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hereditament y byddai’r gwerth ardrethol a ddangosir ar restr ardrethu ar gyfer yr hereditament hwnnw, oni bai am y Rheoliadau hyn, yn cael ei effeithio o ganlyniad i—

a

deddfwriaeth unrhyw wlad neu diriogaeth;

b

darpariaeth nad yw o fewn is-baragraff (a) ond a wneir o dan ddeddfwriaeth unrhyw wlad neu diriogaeth, ac y rhoddir effaith iddi drwy ddeddfwriaeth y wlad neu’r diriogaeth honno;

c

cyngor neu ganllawiau a roddir gan awdurdod cyhoeddus mewn unrhyw wlad neu diriogaeth;

d

unrhyw beth a wneir gan berson gyda’r nod o sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw beth yn is-baragraff (a), (b) neu (c), neu unrhyw beth nas gwneir gan berson gyda’r nod hwnnw.

2

At ddibenion canfod gwerth ardrethol hereditament y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ar gyfer unrhyw ddiwrnod ar 1 Ebrill 2023, neu ar ôl hynny, wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf 1988, rhaid rhagdybio, ar y diwrnod hwnnw, nad oedd unrhyw newid i fater perthnasol a oedd i’w briodoli’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i ddeddfwriaeth, darpariaeth, cyngor, canllawiau neu sicrhau cydymffurfedd y cyfeirir ato yn rheoliad 2(1)(a) i (d), wedi digwydd.

3

Mae’r rhagdybiaeth yn rheoliad 2(2) i’w chymhwyso hefyd at y dibenion hyn pan fo unrhyw newid o’r fath i fater perthnasol wedi digwydd ar ôl y diwrnod a bennir o dan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 ond ar y diwrnod y lluniwyd y rhestr ardrethu neu cyn hynny.

4

Y materion perthnasol yw—

a

materion sy’n effeithio ar fwynhad ffisegol o’r hereditament;

b

dull neu gategori meddiannaeth yr hereditament;

c

materion nad ydynt yn effeithio ar gyflwr ffisegol yr ardal leol y mae’r hereditament wedi ei leoli ynddi ond sydd er hynny’n bresennol yn ffisegol yno;

d

defnyddio mangreoedd eraill sydd wedi eu lleoli yn ardal leol yr hereditament, neu feddiannu mangreoedd o’r fath.

5

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yw corff, swydd neu ddeiliad swydd sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus;

  • ystyr “Deddf 1988” (“the1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

  • mae “deddfwriaeth (“legislation”) yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth o natur ddeddfwriaethol;

  • mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” gan adran 64 o Ddeddf 1988;

  • ystyr “rhestr ardrethu” (“rating list”) yw rhestr ardrethu annomestig leol neu ganolog o dan Ran 3 o Ddeddf 1988.