- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hereditament y byddai’r gwerth ardrethol a ddangosir ar restr ardrethu ar gyfer yr hereditament hwnnw, oni bai am y Rheoliadau hyn, yn cael ei effeithio o ganlyniad i—
(a)deddfwriaeth unrhyw wlad neu diriogaeth;
(b)darpariaeth nad yw o fewn is-baragraff (a) ond a wneir o dan ddeddfwriaeth unrhyw wlad neu diriogaeth, ac y rhoddir effaith iddi drwy ddeddfwriaeth y wlad neu’r diriogaeth honno;
(c)cyngor neu ganllawiau a roddir gan awdurdod cyhoeddus mewn unrhyw wlad neu diriogaeth;
(d)unrhyw beth a wneir gan berson gyda’r nod o sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw beth yn is-baragraff (a), (b) neu (c), neu unrhyw beth nas gwneir gan berson gyda’r nod hwnnw.
(2) At ddibenion canfod gwerth ardrethol hereditament y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ar gyfer unrhyw ddiwrnod ar 1 Ebrill 2023, neu ar ôl hynny, wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf 1988, rhaid rhagdybio, ar y diwrnod hwnnw, nad oedd unrhyw newid i fater perthnasol a oedd i’w briodoli’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i ddeddfwriaeth, darpariaeth, cyngor, canllawiau neu sicrhau cydymffurfedd y cyfeirir ato yn rheoliad 2(1)(a) i (d), wedi digwydd.
(3) Mae’r rhagdybiaeth yn rheoliad 2(2) i’w chymhwyso hefyd at y dibenion hyn pan fo unrhyw newid o’r fath i fater perthnasol wedi digwydd ar ôl y diwrnod a bennir o dan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 ond ar y diwrnod y lluniwyd y rhestr ardrethu neu cyn hynny.
(4) Y materion perthnasol yw—
(a)materion sy’n effeithio ar fwynhad ffisegol o’r hereditament;
(b)dull neu gategori meddiannaeth yr hereditament;
(c)materion nad ydynt yn effeithio ar gyflwr ffisegol yr ardal leol y mae’r hereditament wedi ei leoli ynddi ond sydd er hynny’n bresennol yn ffisegol yno;
(d)defnyddio mangreoedd eraill sydd wedi eu lleoli yn ardal leol yr hereditament, neu feddiannu mangreoedd o’r fath.
(5) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yw corff, swydd neu ddeiliad swydd sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus;
ystyr “Deddf 1988” (“the1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
mae “deddfwriaeth (“legislation”) yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth o natur ddeddfwriaethol;
mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” gan adran 64 o Ddeddf 1988;
ystyr “rhestr ardrethu” (“rating list”) yw rhestr ardrethu annomestig leol neu ganolog o dan Ran 3 o Ddeddf 1988.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: