xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu’r rhagdybiaethau sydd i’w gwneud wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”).

Mae paragraff (1) o reoliad 2 yn pennu’r dosbarth o hereditament y mae’r rhagdybiaethau hyn i’w cymhwyso iddo, sef hereditamentau y byddai eu gwerth ardrethol wedi ei effeithio gan un neu ragor o bedwar peth. Yn gyntaf, deddfwriaeth unrhyw wlad neu diriogaeth; yn ail, darpariaeth a wneir o dan ddeddfwriaeth unrhyw wlad neu diriogaeth, ac y rhoddir effaith iddi drwy ddeddfwriaeth y wlad neu’r diriogaeth honno; yn drydydd, cyngor neu ganllawiau a roddir gan awdurdod cyhoeddus mewn unrhyw wlad neu diriogaeth; ac yn bedwerydd, unrhyw beth a wneir neu nas gwneir gan berson gyda’r nod o gydymffurfio â’r pethau hyn.

Mae paragraffau (2) a (3) o reoliad 2 yn rhagnodi’r rhagdybiaethau sydd i’w gwneud wrth ganfod gwerth ardrethol yr hereditamentau hynny. Y rhagdybiaethau yw nad oedd unrhyw newid i “mater perthnasol” fel y’i diffinnir ym mharagraff (4) o reoliad 2, y gellir ei briodoli’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i unrhyw un neu ragor o’r pedwar peth a restrir ym mharagraff (1) o reoliad 2, wedi digwydd.

Rhagdybiaeth bellach yw nad oedd unrhyw newid i fater perthnasol a ddisgrifir ym mharagraff (2) o reoliad 2 a ddigwyddodd ar ôl y diwrnod (fel y’i pennir o dan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988) y canfuwyd gwerth yr hereditament arno, ond ar y diwrnod y lluniwyd y rhestr ardrethu neu cyn hynny, wedi digwydd ychwaith.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.