Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Rhagdybiaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2023
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Rhagdybiaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2023 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2023.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Prisio hereditamentau2.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hereditament y byddai’r gwerth ardrethol a ddangosir ar restr ardrethu ar gyfer yr hereditament hwnnw, oni bai am y Rheoliadau hyn, yn cael ei effeithio o ganlyniad i—
(a)
deddfwriaeth unrhyw wlad neu diriogaeth;
(b)
darpariaeth nad yw o fewn is-baragraff (a) ond a wneir o dan ddeddfwriaeth unrhyw wlad neu diriogaeth, ac y rhoddir effaith iddi drwy ddeddfwriaeth y wlad neu’r diriogaeth honno;
(c)
cyngor neu ganllawiau a roddir gan awdurdod cyhoeddus mewn unrhyw wlad neu diriogaeth;
(d)
unrhyw beth a wneir gan berson gyda’r nod o sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw beth yn is-baragraff (a), (b) neu (c), neu unrhyw beth nas gwneir gan berson gyda’r nod hwnnw.
(2)
At ddibenion canfod gwerth ardrethol hereditament y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ar gyfer unrhyw ddiwrnod ar 1 Ebrill 2023, neu ar ôl hynny, wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf 1988, rhaid rhagdybio, ar y diwrnod hwnnw, nad oedd unrhyw newid i fater perthnasol a oedd i’w briodoli’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i ddeddfwriaeth, darpariaeth, cyngor, canllawiau neu sicrhau cydymffurfedd y cyfeirir ato yn rheoliad 2(1)(a) i (d), wedi digwydd.
(3)
Mae’r rhagdybiaeth yn rheoliad 2(2) i’w chymhwyso hefyd at y dibenion hyn pan fo unrhyw newid o’r fath i fater perthnasol wedi digwydd ar ôl y diwrnod a bennir o dan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 ond ar y diwrnod y lluniwyd y rhestr ardrethu neu cyn hynny.
(4)
Y materion perthnasol yw—
(a)
materion sy’n effeithio ar fwynhad ffisegol o’r hereditament;
(b)
dull neu gategori meddiannaeth yr hereditament;
(c)
materion nad ydynt yn effeithio ar gyflwr ffisegol yr ardal leol y mae’r hereditament wedi ei leoli ynddi ond sydd er hynny’n bresennol yn ffisegol yno;
(d)
defnyddio mangreoedd eraill sydd wedi eu lleoli yn ardal leol yr hereditament, neu feddiannu mangreoedd o’r fath.
(5)
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yw corff, swydd neu ddeiliad swydd sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus;
ystyr “Deddf 1988” (“the1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
mae “deddfwriaeth (“legislation”) yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth o natur ddeddfwriaethol;
mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” gan adran 64 o Ddeddf 1988;
ystyr “rhestr ardrethu” (“rating list”) yw rhestr ardrethu annomestig leol neu ganolog o dan Ran 3 o Ddeddf 1988.
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu’r rhagdybiaethau sydd i’w gwneud wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”).
Mae paragraff (1) o reoliad 2 yn pennu’r dosbarth o hereditament y mae’r rhagdybiaethau hyn i’w cymhwyso iddo, sef hereditamentau y byddai eu gwerth ardrethol wedi ei effeithio gan un neu ragor o bedwar peth. Yn gyntaf, deddfwriaeth unrhyw wlad neu diriogaeth; yn ail, darpariaeth a wneir o dan ddeddfwriaeth unrhyw wlad neu diriogaeth, ac y rhoddir effaith iddi drwy ddeddfwriaeth y wlad neu’r diriogaeth honno; yn drydydd, cyngor neu ganllawiau a roddir gan awdurdod cyhoeddus mewn unrhyw wlad neu diriogaeth; ac yn bedwerydd, unrhyw beth a wneir neu nas gwneir gan berson gyda’r nod o gydymffurfio â’r pethau hyn.
Mae paragraffau (2) a (3) o reoliad 2 yn rhagnodi’r rhagdybiaethau sydd i’w gwneud wrth ganfod gwerth ardrethol yr hereditamentau hynny. Y rhagdybiaethau yw nad oedd unrhyw newid i “mater perthnasol” fel y’i diffinnir ym mharagraff (4) o reoliad 2, y gellir ei briodoli’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i unrhyw un neu ragor o’r pedwar peth a restrir ym mharagraff (1) o reoliad 2, wedi digwydd.
Rhagdybiaeth bellach yw nad oedd unrhyw newid i fater perthnasol a ddisgrifir ym mharagraff (2) o reoliad 2 a ddigwyddodd ar ôl y diwrnod (fel y’i pennir o dan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988) y canfuwyd gwerth yr hereditament arno, ond ar y diwrnod y lluniwyd y rhestr ardrethu neu cyn hynny, wedi digwydd ychwaith.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.