2023 Rhif 253 (Cy. 33)

Y Dreth Gyngor, Cymru

Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2023

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymruu

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 12B(5) a (6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19921.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2023.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2023.

Diwygio Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 20152

1

Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 20152 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 9 (Dosbarth 6), yn lle paragraff (1) rhodder—

1

Mae’r dosbarth ar anheddau sydd wedi ei ragnodi at ddiben y rheoliad hwn (“Dosbarth 6”) wedi ei ffurfio o bob annedd y mae ei meddiannu wedi ei gyfyngu gan amod cynllunio sydd—

a

yn atal meddiannaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau o leiaf mewn unrhyw gyfnod o un flwyddyn;

b

yn pennu na chaniateir defnyddio’r annedd ond ar gyfer llety gwyliau; neu

c

yn atal meddiannaeth fel unig neu brif breswylfa person.

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 9 (Dosbarth 6) o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2015 er mwyn ychwanegu eiddo sy’n ddarostyngedig i amod cynllunio sy’n pennu na chaniateir defnyddio annedd ond ar gyfer llety gwyliau neu sy’n atal meddiannaeth o’r eiddo hwnnw fel unig neu brif breswylfa person fel dosbarth ar annedd na chaiff awdurdod bilio wneud penderfyniad i gymhwyso cyfradd uwch o dreth gyngor iddo.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.