(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992 (“Rheoliadau 1992”) o ran Cymru.
Mae adran 11 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn darparu bod pobl benodol yn cael eu diystyru wrth benderfynu pa un a yw annedd yn ddarostyngedig i ddisgownt ar swm y dreth gyngor sy’n daladwy. Mae’r dosbarthau o bobl sy’n cael eu diystyru wedi eu nodi yn Atodlen 1 i Ddeddf 1992 a rheoliad 5 o Reoliadau 1992.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 5(8) (Dosbarth H) o Reoliadau 1992 i ddarparu nad yw’r diystyriad presennol ond yn gymwys pan fo person sydd wedi cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan Gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU yn preswylio gyda noddwr o dan y cynllun hwnnw.
Ystyriwyd cod ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.