NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 20238 (“y prif Reoliadau”). Mae’r rheoliadau hynny’n nodi, ar gyfer Cymru, y fframwaith ar gyfer contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan adran 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20069.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i’r prif Reoliadau er mwyn cywiro gwallau o natur dechnegol a mewnosod diffiniadau newydd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.