Mae’r Offeryn Statudol hwn wedi ei argraffu i gywiro gwallau yn O.S. 2023/953 (Cy. 155) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2023 Rhif 1421 (Cy. 250)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) (Diwygio) 2023

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 7(8), 41(3), (5) a (6), 43, 44, 47, 48(1) a (3), 54(6) a (7), 135 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061.