RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
PENNOD 3Aelodau o deuluoedd gwladolion Wcreinaidd
6
Yn yr Atodlen, ym mharagraff 4C—
a
daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);
b
ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—
2
Person—
a
sydd yn briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
b
a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i’r person hwnnw;
c
sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; ac
ch
sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
3
Person—
a
sydd—
i
yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; neu
ii
yn blentyn i briod neu bartner sifil gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
b
a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—
i
o dan 18 oed; a
ii
yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
c
sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; ac
ch
sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
4
Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir.