(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sydd mewn naw Rhan, yn diwygio amryw Reoliadau sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyllid myfyrwyr, ac mewn cysylltiad ag ef.
Mae Rhan 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch dod â’r Rheoliadau hyn i rym a’u cymhwyso.
Mae Rhannau 2 i 8 yn gwneud diwygiadau i’r Rheoliadau a ganlyn—
(a)mae Rhan 2 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”),
(b)mae Rhan 3 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”),
(c)mae Rhan 4 yn diwygio Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”),
(d)mae Rhan 5 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”),
(e)mae Rhan 6 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”),
(f)mae Rhan 7 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol”), ac
(g)mae Rhan 8 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”).
Mae Rhan 9 yn gwneud arbedion mewn cysylltiad â Rheoliadau 2014 a Rheoliadau 2018.
Mae diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn—
(a)yn diweddaru’r categorïau o fyfyrwyr cymwys yn Rheoliadau 2014, Rheoliadau 2017, Rheoliadau 2018, y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol a Rheoliadau 2019 ac yn gwneud newidiadau cyfatebol i Reoliadau 2007 a Rheoliadau 2015, i gynnwys aelodau penodol o deuluoedd personau y rhoddwyd caniatâd iddynt i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y cynlluniau mewnfudo sy’n ymwneud ag Affganistan neu Wcráin;
(b)yn diweddaru’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” yn Rheoliadau 2014 o ganlyniad i newidiadau i’r rheolau mewnfudo;
(c)yn hepgor cyfeiriadau darfodedig at ddeddfwriaeth yr Alban yn Rheoliadau 2017 a Rheoliadau 2018;
(d)yn darparu i fyfyrwyr sy’n gymwys i wneud cais am fwrsari gofal iechyd, gymhwyso i gael cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth yn Rheoliadau 2017 a Rheoliadau 2018;
(e)yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr dysgu o bell fod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf er mwyn cymhwyso i gael grant ar gyfer dibynyddion, oni bai bod eithriad yn gymwys, o dan Reoliadau 2018; ac
(f)yn darparu ar gyfer terfynu cymhwystra yn gynnar o dan y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol a Rheoliadau 2019 pan fo mathau penodol o ganiatâd sydd gan fyfyriwr i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi wedi dod i ben.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.