Mae’r Rheoliadau hyn, sydd mewn naw Rhan, yn diwygio amryw Reoliadau sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyllid myfyrwyr, ac mewn cysylltiad ag ef.
Mae Rhan 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch dod â’r Rheoliadau hyn i rym a’u cymhwyso.
Mae Rhannau 2 i 8 yn gwneud diwygiadau i’r Rheoliadau a ganlyn—
mae Rhan 2 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”),
mae Rhan 3 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”),
mae Rhan 4 yn diwygio Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”),
mae Rhan 5 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”),
mae Rhan 6 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”),
mae Rhan 7 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol”), ac
mae Rhan 8 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”).
Mae Rhan 9 yn gwneud arbedion mewn cysylltiad â Rheoliadau 2014 a Rheoliadau 2018.
Mae diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn—
yn diweddaru’r categorïau o fyfyrwyr cymwys yn Rheoliadau 2014, Rheoliadau 2017, Rheoliadau 2018, y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol a Rheoliadau 2019 ac yn gwneud newidiadau cyfatebol i Reoliadau 2007 a Rheoliadau 2015, i gynnwys aelodau penodol o deuluoedd personau y rhoddwyd caniatâd iddynt i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y cynlluniau mewnfudo sy’n ymwneud ag Affganistan neu Wcráin;
yn diweddaru’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” yn Rheoliadau 2014 o ganlyniad i newidiadau i’r rheolau mewnfudo;
yn hepgor cyfeiriadau darfodedig at ddeddfwriaeth yr Alban yn Rheoliadau 2017 a Rheoliadau 2018;
yn darparu i fyfyrwyr sy’n gymwys i wneud cais am fwrsari gofal iechyd, gymhwyso i gael cyfradd lawn y benthyciad cynhaliaeth yn Rheoliadau 2017 a Rheoliadau 2018;
yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr dysgu o bell fod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf er mwyn cymhwyso i gael grant ar gyfer dibynyddion, oni bai bod eithriad yn gymwys, o dan Reoliadau 2018; ac
yn darparu ar gyfer terfynu cymhwystra yn gynnar o dan y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol a Rheoliadau 2019 pan fo mathau penodol o ganiatâd sydd gan fyfyriwr i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi wedi dod i ben.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.