NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer adennill taliadau am gyflawni swyddogaethau ac mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Ran 2A o Ddeddf Adeiladu 1984 (“Rhan 2A”). Mae Rhan 2A, sydd wedi ei mewnosod gan adran 42 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022, yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu a goruchwylio’r rheini sy’n arfer swyddogaethau rheolaeth adeiladu.

Mae rheoliad 3 yn awdurdodi Gweinidogion Cymru i adennill taliadau am y swyddogaethau neu mewn cysylltiad â’r swyddogaethau a restrir yn y rheoliad hwnnw (“swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt”).

Mae rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i swm unrhyw dâl gael ei bennu yn unol â chynllun codi tâl a wneir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru. O dan y cynllun, rhaid i’r taliadau sy’n daladwy, i’r graddau y bo’n bosibl a chan gymryd un flwyddyn gydag un arall, adlewyrchu’r costau yr eir iddynt wrth ymgymryd â’r swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt. Mae darpariaeth wedi ei gwneud ar gyfer diwygio’r cynllun codi tâl ac ar gyfer cyhoeddi’r cynllun ac unrhyw ddiwygiadau.

Mae rheoliadau 5 i 7 yn pennu’r amgylchiadau y mae person penodol yn gyfrifol am dalu’r taliadau a bennir yn y rheoliadau hynny oddi tanynt.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â thalu ac adennill taliadau, gan gynnwys darpariaeth mewn perthynas ag amserlenni a datganiadau gwaith.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.