xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diffinio’r hyn yw adeilad risg uwch at ddibenion adran 120I o Ddeddf Adeiladu 1984 (“Deddf 1984”). Mae Rhan 3 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (“Deddf 2022”), a fewnosododd adran 120I yn Neddf 1984, yn gwneud darpariaeth ar gyfer adeiladau risg uwch i fod yn ddarostyngedig i drefn reoleiddiol fanylach yn ystod y cyfnod dylunio ac adeiladu.

Mae rheoliad 3 yn diffinio adeilad risg uwch yn adeilad sydd naill ai’n o leiaf 18 metr o uchder neu sydd ag o leiaf 7 llawr, pan fo hefyd yn cynnwys o leiaf un uned breswyl neu pan fo’n ysbyty, yn gartref gofal neu’n gartref plant. Mae rheoliad 4 yn manylu ar sut y dylid mesur uchder adeilad. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y dylid cyfrifo nifer y lloriau sydd mewn adeilad. Mae rheoliad 6 yn rhestru adeiladau sydd wedi eu heithrio o’r diffiniad yn rheoliad 3 ac nad ydynt felly yn adeiladau risg uwch at ddibenion y drefn reoleiddiol fanylach.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.