2023 Rhif 1210 (Cy. 213)
Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru

Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 120A(3) a 120I(2), (4) a (5)(a) o Ddeddf Adeiladu 19841, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 120C(2)2 o Ddeddf Adeiladu 1984 mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Yn unol ag adran 120A(9) o Ddeddf Adeiladu 1984 gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.