NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r pedwerydd gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o Ran 4 (casglu a gwaredu gwastraff) y Ddeddf ar 18 Hydref 2023—
(a)
adran 65 (gofynion sy’n ymwneud â chasglu ar wahân etc. wastraff),
(b)
adran 67 (pŵer i wahardd neu reoleiddio gwaredu gwastraff drwy losgi),
(c)
adran 68 (sancsiynau sifil),
(d)
adran 69(5) (rheoliadau), ac
(e)
adran 70 (mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau).
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn adran 66 (gwahardd gwaredu gwastraff bwyd i garthffos) o’r Ddeddf i rym ar 6 Ebrill 2024.