xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023(1) (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 17 Hydref 2023—
(a)adrannau 21 i 23 (Ymyrraeth mewn marchnadoedd amaethyddol);
(b)adrannau 25-33 (Casglu a rhannu data);
(c)adran 34 (Safonau marchnata);
(d)adran 35 (Dosbarthiad carcasau);
(e)adran 55 (Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau etc.);
(f)Atodlen 1 (Cynhyrchion amaethyddol sy’n berthnasol i ddarpariaethau safonau marchnata);
(g)Atodlen 2 (Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol etc. sy’n ymwneud â Rhannau 1 i 3) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(h)Atodlen 3 (Diwygiadau canlyniadol etc. i’r Rheoliad CMO).
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2024—
(a)adrannau 36-44 (Coedwigaeth) i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym.
Mae erthygl 4 yn darparu darpariaethau arbed mewn perthynas â rheoliadau neu ddatganiadau a wnaed o dan y darpariaethau presennol yn Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 a ddiddymir gan y Ddeddf.