Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 17 Hydref 2023—
adrannau 21 i 23 (Ymyrraeth mewn marchnadoedd amaethyddol);
adrannau 25-33 (Casglu a rhannu data);
adran 34 (Safonau marchnata);
adran 35 (Dosbarthiad carcasau);
adran 55 (Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau etc.);
Atodlen 1 (Cynhyrchion amaethyddol sy’n berthnasol i ddarpariaethau safonau marchnata);
Atodlen 2 (Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol etc. sy’n ymwneud â Rhannau 1 i 3) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
Atodlen 3 (Diwygiadau canlyniadol etc. i’r Rheoliad CMO).
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2024—
adrannau 36-44 (Coedwigaeth) i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym.
Mae erthygl 4 yn darparu darpariaethau arbed mewn perthynas â rheoliadau neu ddatganiadau a wnaed o dan y darpariaethau presennol yn Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 a ddiddymir gan y Ddeddf.