xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 39
1.—(1) Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(1) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (awdurdodau cyhoeddus), ym mharagraff 44, ar ôl “National Health Service (Wales) Act 2006,” mewnosoder “or providing both general ophthalmic services and other ophthalmic services in accordance with arrangements made with a Local Health Board in Wales under the National Health Service (Wales) Act 2006,”.
2.—(1) Mae Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 27(1) (darpariaethau dehongli eraill), yn is-baragraff (b) o’r diffiniad o “family health service provider in Wales”—
(a)ar ôl “general ophthalmic services” mewnosoder “, or both general ophthalmic services and other ophthalmic services in accordance with arrangements made with a Local Health Board,”;
(b)hepgorer “Part 6 of”.
3.—(1) Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019(3) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 78(1) (dehongli), yn is-baragraff (b) o’r diffiniad o “darparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru”, ar ôl “wasanaethau offthalmig cyffredinol” mewnosoder “, neu wasanaethau offthalmig cyffredinol a gwasanaethau offthalmig eraill fel ei gilydd yn unol â threfniadau a wnaed â Bwrdd Iechyd Lleol,”.