xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
12.—(1) Caiff ymarferydd cymwysedig, ac eithrio myfyriwr optometreg, wneud cais i Fwrdd Iechyd Lleol i gael ei gynnwys yn rhestr offthalmig y Bwrdd Iechyd Lleol.
(2) Caiff ymarferydd cymwysedig wneud cais i Fwrdd Iechyd Lleol i gael ei gynnwys yn rhestr atodol y Bwrdd Iechyd Lleol.
(3) Rhaid i gais i gynnwys ymarferydd yn rhestr offthalmig Bwrdd Iechyd Lleol gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys—
(a)ymgymeriad—
(i)i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw;
(ii)i gydymffurfio â’r telerau gwasanaeth a nodir yn Atodlen 4;
(b)pan fo’r ceisydd yn dymuno darparu gwasanaethau symudol, ddatganiad i’r perwyl hwnnw ynghyd ag ymgymeriad i ddarparu gwasanaethau symudol;
(c)yr wybodaeth, yr ymgymeriadau a’r datganiadau sy’n ofynnol gan baragraffau 3, 4 a 7 o Atodlen 3.
(4) Rhaid i gais i gynnwys ymarferydd yn rhestr atodol Bwrdd Iechyd Lleol gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth, yr ymgymeriadau a’r datganiadau sy’n ofynnol gan baragraffau 5, 6 a 7 o Atodlen 3.
(5) Yn achos cais i Fwrdd Iechyd Lleol gan ymarferydd cymwysedig sydd wedi ei gynnwys yn rhestr atodol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, ac sy’n ceisio tynnu’n ôl o’r rhestr honno a chael ei gynnwys yn ei restr offthalmig, nid yw’n ofynnol i’r ymarferydd cymwysedig hwnnw ddarparu unrhyw wybodaeth nac unrhyw ymgymeriadau sy’n ofynnol gan baragraff (3) ac Atodlenni 3 a 4 ond i’r graddau—
(a)nad yw’r ymarferydd cymwysedig hwnnw eisoes wedi eu darparu i’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, neu
(b)y mae’r wybodaeth wedi newid ers cael ei darparu.
13.—(1) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol sy’n cael cais o dan reoliad 12—
(a)penderfynu pa un ai i gymeradwyo’r ymarferydd cymwysedig i’w gynnwys yn ei restr offthalmig neu yn ei restr atodol (yn ôl y digwydd), a
(b)oni bai bod rheoliad 15 yn gymwys, hysbysu’r ymarferydd cymwysedig am ei benderfyniad o fewn 7 niwrnod i’r penderfyniad hwnnw.
(2) Cyn penderfynu ar gais o dan baragraff (1)(a), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)gwirio’r wybodaeth a ddarperir gan yr ymarferydd cymwysedig, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, yn enwedig yr wybodaeth honno a ddarperir o dan Atodlen 3,
(b)gwirio gydag Awdurdod Gwrth-dwyll y GIG a oes gan yr ymarferydd cymwysedig unrhyw hanes o dwyll,
(c)gwirio gyda Gweinidogion Cymru ynghylch unrhyw ffeithiau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol mewn perthynas ag ymchwiliadau neu achosion, ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, sy’n ymwneud â’r ymarferydd cymwysedig neu sy’n gysylltiedig ag ef, ac ystyried y ffeithiau hynny, a
(d)cael geirdaon oddi wrth y canolwyr a enwir gan yr ymarferydd cymwysedig o dan baragraff 3(l) neu 5(h) o Atodlen 3 (fel y bo’n briodol), ac ystyried y geirdaon a ddarperir.
(3) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol wrthod cynnwys ymarferydd cymwysedig yn ei restr gyfunol pan fo unrhyw un neu ragor o’r seiliau ym mharagraff 8 o Atodlen 3 yn gymwys.
(4) Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol wrthod cynnwys ymarferydd cymwysedig yn ei restr gyfunol pan fo unrhyw un neu ragor o’r seiliau ym mharagraff 9 o Atodlen 3 yn gymwys.
(5) Wrth ystyried gwrthodiad o dan baragraff (4), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried y ffactorau a nodir ym mharagraff 10 o Atodlen 3.
(6) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gwrthod cais, rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (1)(b) gynnwys—
(a)datganiad o’r rhesymau dros benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt), a
(b)manylion ynghylch sut i apelio yn erbyn y gwrthodiad o dan reoliad 28.
(7) Pan fo cais yn cael ei wneud i Fwrdd Iechyd Lleol yn unol â rheoliad 12, ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol wrthod y cais ond yn unol â pharagraffau (3) a (4).
14.—(1) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)penderfynu cynnwys ymarferydd cymwysedig yn ei restr gyfunol yn ddarostyngedig i amodau;
(b)mewn perthynas ag ymarferydd cymwysedig sydd wedi gwneud cais i gael ei gynnwys yn rhestr offthalmig y Bwrdd Iechyd Lleol, amrywio’r telerau gwasanaeth a nodir yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau hyn at ddiben gosod yr amodau hynny, neu mewn cysylltiad â gosod yr amodau hynny.
(2) Wrth osod amodau ar ymarferydd cymwysedig o dan baragraff (1)(a), rhaid gwneud hynny gyda’r bwriad o—
(a)rhwystro unrhyw niwed i effeithlonrwydd darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol, neu
(b)rhwystro unrhyw weithredoedd neu anweithredoedd o’r math a ddisgrifir yn adran 107(3)(a) o’r Ddeddf (anghymhwyso ymarferwyr).
(3) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol adolygu ei benderfyniad i osod neu amrywio amod o dan baragraff (1), ac os gofynnir yn ysgrifenedig gan yr ymarferydd cymwysedig iddo adolygu penderfyniad o’r fath, rhaid iddo wneud hynny.
(4) Ni chaiff ymarferydd cymwysedig ofyn am adolygiad o dan baragraff (3) tan ar ôl cyfnod o dri mis gan ddechrau â’r dyddiad y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cynnwys yr ymarferydd cymwysedig yn ei restr gyfunol.
(5) Ar ôl i adolygiad ddigwydd, ni chaiff yr ymarferydd cymwysedig ofyn am adolygiad pellach cyn diwedd cyfnod o chwe mis gan ddechrau â dyddiad y penderfyniad ar yr adolygiad blaenorol.
(6) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn adolygu ei benderfyniad o dan y rheoliad hwn, caiff—
(a)amrywio’r amodau a osodir ar yr ymarferydd cymwysedig,
(b)gosod amodau gwahanol ar yr ymarferydd cymwysedig,
(c)dileu’r amod neu’r amodau a osodir ar yr ymarferydd cymwysedig, neu
(d)dileu’r ymarferydd cymwysedig o’i restr gyfunol.
(7) Caiff ymarferydd cymwysedig apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn y penderfyniadau a ganlyn gan y Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)penderfyniad i osod amodau, neu unrhyw amod penodol, ar yr ymarferydd cymwysedig;
(b)penderfyniad i amrywio amod;
(c)penderfyniad i amrywio telerau gwasanaeth yr ymarferydd cymwysedig.
(8) Ac eithrio mewn achos o fewn is-baragraff (10), ni chaniateir i unrhyw benderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol a gaiff fod yn destun apêl o dan is-baragraff (4) gael effaith hyd nes bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi penderfynu unrhyw apêl yn ei erbyn neu fod yr amser ar gyfer unrhyw apêl wedi dod i ben.
(9) Mae is-baragraff (10) yn gymwys pan—
(a)bo ymarferydd cymwysedig wedi gwneud cais i gael ei gynnwys yn rhestr atodol Bwrdd Iechyd Lleol, a
(b)bo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu y caniateir i ymarferydd cymwysedig gael ei gynnwys yn ei restr atodol yn ddarostyngedig i amodau.
(10) Os yw’r ymarferydd cymwysedig yn cytuno’n ysgrifenedig i gael ei rwymo gan yr amodau a osodir hyd nes bod yr amser ar gyfer apelio wedi dod i ben neu fod unrhyw apêl wedi ei phenderfynu, caniateir i’r ymarferydd cymwysedig gael ei gynnwys (neu barhau i gael ei gynnwys) yn y rhestr honno—
(a)yn ystod y cyfnod ar gyfer unrhyw apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan reoliad 28, neu
(b)os caiff apêl ei dwyn, hyd nes bod yr apêl wedi ei phenderfynu.
15.—(1) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol ohirio ystyried penderfyniad o dan reoliad 13 pan fo unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn Rhan 4 o Atodlen 3 yn gymwys.
(2) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)hysbysu’r ymarferydd cymwysedig ei fod wedi gohirio ei benderfyniad, a
(b)rhoi rhesymau dros y gohiriad hwnnw.
(3) Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol ohirio ystyried penderfyniad o dan baragraff (1) ond hyd nes bod canlyniad y digwyddiad perthnasol a grybwyllir ym mharagraff 11(1)(c) a (2) o Ran 4 o Atodlen 3 yn hysbys neu tra bo’r ymarferydd cymwysedig wedi ei atal dros dro o dan baragraff 11(1)(a) neu (b) o’r Atodlen honno.
(4) Ar ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddod yn ymwybodol o ganlyniad y digwyddiad perthnasol a grybwyllir ym mharagraff 11(1)(c) a (2) o Ran 4 o Atodlen 3, neu ar ôl i’r ataliad dros dro y cyfeirir ato ym mharagraff 11(1)(a) neu (b) o’r Atodlen honno ddod i ben, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r ymarferydd cymwysedig ei bod yn ofynnol iddo—
(a)diweddaru ei gais o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr hysbysiad (neu unrhyw gyfnod hwy a gytunir gan y Bwrdd Iechyd Lleol), a
(b)cadarnhau yn ysgrifenedig o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) ei fod yn dymuno bwrw ymlaen â’i gais.
(5) Ar yr amod bod unrhyw wybodaeth ychwanegol wedi dod i law o fewn 28 o ddiwrnodau, neu o fewn yr amser y cytunwyd arno, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu’r ymarferydd cymwysedig cyn gynted ag y bo modd—
(a)bod ei gais wedi bod yn llwyddiannus, neu
(b)pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu gwrthod ei gais neu osod amodau ar gynnwys yr ymarferydd hwnnw—
(i)am y penderfyniad hwnnw a’r rhesymau drosto (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt), a
(ii)ynghylch sut i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw o dan reoliad 28.
16.—(1) Wrth ddod yn ymwybodol o newid i’r wybodaeth a ddarparwyd gan yr ymarferydd cymwysedig yn unol â pharagraffau 5 i 7 o Atodlen 3 wrth wneud cais i gael ei gynnwys yn rhestr atodol y Bwrdd Iechyd Lleol, rhaid i’r ymarferydd cymwysedig hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig o fewn 7 niwrnod.
(2) Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid i’r ymarferydd cymwysedig ddarparu’r holl awdurdod angenrheidiol er mwyn galluogi i gais gael ei wneud gan y Bwrdd Iechyd Lleol i unrhyw gyflogwr (neu gyn-gyflogwr), unrhyw gorff trwyddedu, unrhyw gorff rheoleiddio neu unrhyw gorff arall yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, am wybodaeth sy’n ymwneud â’r hysbysiad a roddir gan yr ymarferydd cymwysedig o dan is-baragraff (1).
(3) Rhaid i ymarferydd cymwysedig sydd wedi ei gynnwys yn rhestr atodol Bwrdd Iechyd Lleol gyflenwi i’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw dystysgrif cofnod troseddol manwl o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(1) mewn perthynas â’r ymarferydd cymwysedig os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol ar unrhyw adeg, am achos rhesymol, yn rhoi hysbysiad i’r ymarferydd cymwysedig i ddarparu tystysgrif o’r fath.
1997 p. 50; mewnosodwyd adran 113B gan adran 163(2) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15).