2023 Rhif 102 (Cy. 19)
Cefn Gwlad, Cymru

Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Adolygu Mapiau) (Diwygio) (Cymru) 2023

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 10(3) a 45(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 20001.

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Adolygu Mapiau) (Diwygio) (Cymru) 2023.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2023.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.3.2023, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 20002.

Yn adran 10(2)(b)(ii) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (adolygu mapiau)2, yn lle “ten” rhodder “fifteen”.
Annotations:
Commencement Information

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.3.2023, gweler rhl. 1(2)

Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 10(2) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37) (“y Ddeddf”) o ran Cymru.

Mae adran 10(2) o’r Ddeddf yn rhagnodi’r cyfnodau amser y mae rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru (fel y corff cefn gwlad priodol o ran Cymru) gynnal ynddynt adolygiadau cychwynnol a dilynol o fapiau a ddyroddir ganddo ar ffurf derfynol o dan adran 9 o’r Ddeddf, gan ddangos tir comin cofrestredig a chefn gwlad agored yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 10(2)(b)(ii) o’r Ddeddf er mwyn estyn y cyfnod hiraf rhwng adolygiadau dilynol ar ôl adolygiad cyntaf, o 10 mlynedd ar ôl yr adolygiad blaenorol, i 15 mlynedd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.