- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Adolygu Mapiau) (Diwygio) (Cymru) 2023.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Cefn Gwlad, Cymru
Gwnaed
1 Chwefror 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
3 Chwefror 2023
Yn dod i rym
1 Mawrth 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 10(3) a 45(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Adolygu Mapiau) (Diwygio) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2023.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.3.2023, gweler rhl. 1(2)
2. Yn adran 10(2)(b)(ii) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (adolygu mapiau)(2), yn lle “ten” rhodder “fifteen”.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.3.2023, gweler rhl. 1(2)
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
1 Chwefror 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 10(2) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37) (“y Ddeddf”) o ran Cymru.
Mae adran 10(2) o’r Ddeddf yn rhagnodi’r cyfnodau amser y mae rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru (fel y corff cefn gwlad priodol o ran Cymru) gynnal ynddynt adolygiadau cychwynnol a dilynol o fapiau a ddyroddir ganddo ar ffurf derfynol o dan adran 9 o’r Ddeddf, gan ddangos tir comin cofrestredig a chefn gwlad agored yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 10(2)(b)(ii) o’r Ddeddf er mwyn estyn y cyfnod hiraf rhwng adolygiadau dilynol ar ôl adolygiad cyntaf, o 10 mlynedd ar ôl yr adolygiad blaenorol, i 15 mlynedd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2000 p. 37. Mae adran 45(1) yn diffinio “regulations” yn Rhan 1 o’r Ddeddf (o ran Cymru) fel rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Trosglwyddwyd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 10(3) a 45(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Diwygiwyd adran 10(2) gan O.S. 2013/514. Mae diwygiad arall ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: