(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 10(2) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37) (“y Ddeddf”) o ran Cymru.
Mae adran 10(2) o’r Ddeddf yn rhagnodi’r cyfnodau amser y mae rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru (fel y corff cefn gwlad priodol o ran Cymru) gynnal ynddynt adolygiadau cychwynnol a dilynol o fapiau a ddyroddir ganddo ar ffurf derfynol o dan adran 9 o’r Ddeddf, gan ddangos tir comin cofrestredig a chefn gwlad agored yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 10(2)(b)(ii) o’r Ddeddf er mwyn estyn y cyfnod hiraf rhwng adolygiadau dilynol ar ôl adolygiad cyntaf, o 10 mlynedd ar ôl yr adolygiad blaenorol, i 15 mlynedd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.