Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2022
Enwi, cymhwyso a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2022.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y dyddiadau a ganlyn—
(a)
daw’r rheoliad hwn a rheoliad 3 i rym ar 22 Tachwedd 2022; a
(b)
daw rheoliadau 2 a 4 i rym ar 29 Mawrth 2023.
Diwygio Rheoliadau Adeiladu 20102.
(1)
(2)
Yn Atodlen 1 (gofynion), yn Rhan L (arbed tanwydd a phŵer), yn ail golofn cofnod L2 (cynhyrchu trydan ar y safle) hepgorer “Requirement L2 applies only to dwellings.”
Diwygio Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 20223.
(1)
(2)
Yn rheoliad 21(1) (darpariaeth drosiannol)—
(a)
ar ôl “Rheoliadau hyn” yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos mewnosoder “(heblaw am reoliadau 14 a 17)”;
(b)
yn is-baragraff (b), ar ôl “adeilad unigol” mewnosoder “cyn y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym”;
(c)
“, neu
(c)
pan gydymffurfiwyd â darpariaeth hysbysu berthnasol cyn 31 Gorffennaf 2014 a bod y gwaith adeiladu wedi cychwyn cyn 31 Gorffennaf 2015 yn unol â’r ddarpariaeth hysbysu berthnasol.”
Darpariaeth Drosiannol4.
(1)
Nid yw’r diwygiad a wneir gan reoliad 2 yn gymwys—
(a)
pan fo’r gwaith adeiladu ar adeilad penodol wedi cychwyn cyn 29 Mawrth 2023 yn unol ag unrhyw ddarpariaeth hysbysu berthnasol,
(b)
pan gydymffurfiwyd â darpariaeth hysbysu berthnasol mewn perthynas â gwaith adeiladu arfaethedig ar adeilad unigol cyn 29 Mawrth 2023 a bod y gwaith adeiladu wedi cychwyn o fewn 12 mis gan ddechrau â 29 Mawrth 2023, neu
(c)
pan gydymffurfiwyd â darpariaeth hysbysu berthnasol cyn 31 Gorffennaf 2014 a bod y gwaith adeiladu wedi cychwyn cyn 31 Gorffennaf 2015 yn unol â’r ddarpariaeth hysbysu berthnasol.
(2)
Yn y rheoliad hwn, ystyr “darpariaeth hysbysu berthnasol” yw rheoliad 12(2) o Reoliadau Adeiladu 2010 ac adrannau 47(1), 50, 51A(2) a 54 o Ddeddf Adeiladu 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 (“y Rheoliadau Adeiladu”) fel y maent yn gymwys o ran Cymru a Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2022 (“Rheoliadau Diwygio 2022”).
Mae Atodlen 1 i’r Rheoliadau Adeiladu yn nodi’r hyn sy’n ofynnol wrth gyflawni gwaith adeiladu. Mae rheoliad 2 yn estyn paragraff L2 o Atodlen 1 (cynhyrchu trydan ar y safle) i adeiladau annomestig.
Mae rheoliad 3 yn gwneud diwygiadau i’r darpariaethau trosiannol yn rheoliad 21 o Reoliadau Diwygio 2022. Mae’r diwygiadau yn rheoliad 3 yn cywiro mân wallau ac yn eithrio Rhannau 2 a 3 o Reoliadau Diwygio 2022 rhag bod yn gymwys i safleoedd sy’n dod o dan ddarpariaethau trosiannol blaenorol. Gwna hyn drwy bennu’r dyddiadau perthnasol erbyn pryd y dylid bod wedi cydymffurfio â darpariaeth hysbysu (31 Gorffennaf 2014) ac erbyn pryd y dylai’r gwaith adeiladu fod wedi cychwyn (31 Gorffennaf 2015).
Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaethau trosiannol fel nad yw’r diwygiad a wneir gan reoliad 2 yn gymwys pan fo gwaith adeiladu ar adeilad unigol wedi cychwyn yn unol â darpariaeth hysbysu berthnasol, ar yr amod bod y gwaith adeiladu ar yr adeilad hwnnw eisoes wedi cychwyn neu y cydymffurfiwyd â darpariaeth hysbysu berthnasol eisoes ac y cychwynnir y gwaith adeiladu ar yr adeilad hwnnw o fewn 12 mis i’r adeg y daw’r Rheoliadau hyn i rym. Mae rheoliad 4 hefyd yn eithrio’r diwygiad i Ran L (rheoliad 2) rhag bod yn gymwys i safleoedd fel y’u nodir yn rheoliad 3.
Mae Deddf Adeiladu 1984 yn rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo a chyhoeddi dogfennau sy’n cynnwys canllawiau ymarferol yn ymwneud â’r gofynion a geir yn y Rheoliadau Adeiladu. Mae’r pŵer hwnnw yn arferadwy gan Weinidogion Cymru i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru.
Mae Dogfen Gymeradwy L Cyfrol 2, rhifyn 2022, yn cynnwys canllawiau ymarferol ar fodloni gofynion y Rheoliadau Adeiladu sydd wedi cael eu diwygio gan yr offeryn hwn. Mae’r Dogfennau Cymeradwy wedi eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru a gellir cael gafael arnynt ar www.llyw.cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.