- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Mae’r Offeryn Statudol hwn yn cywiro gwallau yn O.S. 2022/564 (Cy. 130) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
Offerynnau Statudol Cymru
Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru
Gwnaed
26 Medi 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
28 Medi 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984(1), a pharagraffau 2, 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2).
Wrth wneud y Rheoliadau hyn mae Gweinidogion Cymru yn rhoi sylw i’r materion yn adran 1A(3) o’r Ddeddf honno a chyn gwneud y Rheoliadau hyn gwnaethant ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu a’r cyrff eraill hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli’r buddiannau o dan sylw yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 1984(4).
1984 p. 55; diwygiwyd adran 1(1) gan adran 1(1) a (2) o Ddeddf Adeiladau Cynaliadwy a Diogel 2004 (p. 22) (“Deddf 2004”). Mewnosodwyd adran (1A) gan adran 1(3) o Ddeddf 2004. Diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 1 gan adran 3 o Ddeddf 2004 ac adran 11 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2006 (p. 19); a diwygiwyd paragraff 8 o Atodlen 1 gan adran 3 o Ddeddf 2004 ac adran 40 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29).
Cafodd y swyddogaethau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984, a pharagraffau 2, 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/3019) (“Gorchymyn 2009”) ac adran 54 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4).
Mewnosodwyd adran 1A gan adran 2 o Ddeddf 2004.
Mewnosodwyd adran 14(7) gan erthygl 8 o Orchymyn 2009.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: