Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Ebrill 2022.
Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 20152.
(a)
yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£33” rhodder “£35”;
(b)
yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£33” rhodder “£35”.
Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 20153.
(a)
yn Rhan 1 (symiau sydd i’w diystyru) o Atodlen 1 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm)—
(i)
“30.
(1)
Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 39 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (y Gronfa, yr Ymddiriedolaethau Macfarlane ac ymddiriedolaethau a Chronfeydd eraill a’r Gronfa Byw’n Annibynnol).
(2)
Unrhyw daliad a wneir o dan—
(a)
Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru a sefydlwyd o dan adrannau 1 i 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20064 ac a weinyddir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre; neu(b)
Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Gogledd Iwerddon a weinyddir gan y Sefydliad Gwasanaethau Busnes Rhanbarthol a sefydlwyd o dan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 20095.”;
(b)
yn Atodlen 2 (cyfalaf sydd i’w ddiystyru)—
(i)
“20.
(1)
Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraffau 21 i 24 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (ffi neu gomisiwn am drosi cyfalaf i sterling, yr Ymddiriedolaethau Macfarlane, y Gronfa a’r Gronfa Byw’n Annibynnol, gwerth yr hawl i gael pensiwn personol neu alwedigaethol, gwerth cronfeydd o dan gynllun pensiwn personol a rhent).
(2)
Unrhyw daliad a wneir o dan—
(a)
Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru a sefydlwyd o dan adrannau 1 i 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac a weinyddir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre; neu
(b)
Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Gogledd Iwerddon a weinyddir gan y Sefydliad Gwasanaethau Busnes Rhanbarthol a sefydlwyd o dan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009.”;
(ii)
“36.
Unrhyw daliad a wneir i A o dan Ddeddf Camdriniaeth Sefydliadol Hanesyddol (Gogledd Iwerddon) 20198.37.
Unrhyw daliad a wneir i A o dan Ddeddf Darparu Iawn i Oroeswyr (Camdriniaeth Hanesyddol Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021.
38.
Unrhyw daliad a wneir i A o dan Reoliadau Taliadau Dioddefwyr 2020.
39.
Unrhyw daliad a wneir i A o dan y cynllun taliadau ar gyfer cyn-blant mudol Prydeinig a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.”
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau Gosod Ffioedd”) a Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau Asesiad Ariannol”).
Mae’r Rheoliadau Gosod Ffioedd yn nodi’r gofynion y mae rhaid i awdurdodau lleol eu bodloni wrth ddyfarnu swm y ffioedd sy’n gymwys mewn perthynas â gofal a chymorth a ddarperir neu a drefnir ganddynt, neu y cynigiant eu darparu neu eu trefnu, wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Mae’r Rheoliadau Gosod Ffioedd hefyd yn cynnwys darpariaethau cyfochrog sy’n nodi’r gofynion sy’n gymwys pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu angen person am ofal a chymorth.
Mae’r Rheoliadau Asesiad Ariannol yn gwneud darpariaeth o dan y Ddeddf ynghylch y ffordd y mae rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad ariannol o adnoddau ariannol person (“A”) yn yr achosion a ganlyn:
pan fo’r awdurdod yn tybio, pe bai’n diwallu anghenion A am ofal a chymorth (neu anghenion gofalwr am gymorth), y byddai’n gosod ffi o dan adran 59 o’r Ddeddf, neu
pan fo’r awdurdod yn tybio, pe bai’n gwneud taliadau tuag at y gost o ddiwallu anghenion A am ofal a chymorth (neu angen gofalwr am gymorth) drwy wneud taliadau uniongyrchol yn rhinwedd adran 50 neu 52 o’r Ddeddf, y byddai’n ei gwneud yn ofynnol i A dalu, ar ffurf ad-daliad (yn achos taliadau gros) neu gyfraniad (yn achos taliadau net), tuag at y gost o sicrhau’r ddarpariaeth honno o ofal a chymorth.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 13 o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) fel a ganlyn:
cynnydd yn yr isafswm incwm wythnosol net ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal o £33 i £35.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 28 o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) fel a ganlyn:
cynnydd yn yr isafswm incwm wythnosol net ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal ac sy’n cael taliadau uniongyrchol o dan y Ddeddf o £33 i £35.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol fel a ganlyn:
Mae paragraff 30 wedi ei amnewid i ddarparu bod taliadau a wneir o dan:
Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru a sefydlwyd o dan adrannau 1 i 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac a weinyddir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre, neu
Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Gogledd Iwerddon a weinyddir gan y Sefydliad Gwasanaethau Busnes Rhanbarthol a sefydlwyd o dan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009,
i’w diystyru wrth gyfrifo incwm oedolyn at ddibenion asesiad o adnoddau ariannol yr oedolyn hwnnw. Mae taliadau a wneir o dan y cynlluniau cyfatebol, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Lloegr a Chynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, yn parhau i gael eu diystyru o dan baragraff 30(1) o Atodlen 1.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol fel a ganlyn:
mae unrhyw daliadau a wneir i A o dan Ddeddf Darparu Iawn i Oroeswyr (Camdriniaeth Hanesyddol Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021, neu
mae unrhyw daliadau a wneir i A o dan Reoliadau Taliadau Dioddefwyr 2020,
i’w diystyru wrth gyfrifo incwm oedolyn at ddibenion asesiad o adnoddau ariannol yr oedolyn hwnnw.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol fel a ganlyn:
Mae paragraff 20 wedi ei amnewid i ddarparu bod taliadau a wneir o dan:
Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru a sefydlwyd o dan adrannau 1 i 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac a weinyddir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre, neu
Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Gogledd Iwerddon a weinyddir gan y Sefydliad Gwasanaethau Busnes Rhanbarthol a sefydlwyd o dan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009,
i’w diystyru wrth gyfrifo cyfalaf oedolyn at ddibenion asesiad o adnoddau ariannol yr oedolyn hwnnw. Mae taliadau a wneir o dan y cynlluniau cyfatebol, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Lloegr a Chynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Yr Alban, yn parhau i gael eu diystyru o dan baragraff 20(1) o Atodlen 2.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol fel a ganlyn:
mae taliadau a wneir o dan Ddeddf Camdriniaeth Sefydliadol Hanesyddol (Gogledd Iwerddon) 2019,
mae taliadau a wneir o dan Ddeddf Darparu Iawn i Oroeswyr (Camdriniaeth Hanesyddol Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021,
mae taliadau a wneir o dan Reoliadau Taliadau Dioddefwyr 2020, neu
mae taliadau a wneir o dan y cynllun taliadau ar gyfer cyn-blant mudol Prydeinig a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol,
i’w diystyru wrth gyfrifo cyfalaf oedolyn at ddibenion asesiad o adnoddau ariannol yr oedolyn hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.