Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 99 (Cy. 35)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022

Gwnaed

2 Chwefror 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

4 Chwefror 2022

Yn dod i rym

11 Ebrill 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50, 52, 53(3), 61, 64(1), 64(2)(b), 66, 69 a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Ebrill 2022.

Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015

2.  Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£33” rhodder “£35”;

(b)yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£33” rhodder “£35”.

Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015

3.  Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn Rhan 1 (symiau sydd i’w diystyru) o Atodlen 1 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm)—

(i)yn lle paragraff 30 rhodder—

30.(1) Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 39 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (y Gronfa, yr Ymddiriedolaethau Macfarlane ac ymddiriedolaethau a Chronfeydd eraill a’r Gronfa Byw’n Annibynnol).

(2) Unrhyw daliad a wneir o dan—

(a)Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru a sefydlwyd o dan adrannau 1 i 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(4) ac a weinyddir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre; neu

(b)Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Gogledd Iwerddon a weinyddir gan y Sefydliad Gwasanaethau Busnes Rhanbarthol a sefydlwyd o dan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009(5).;

(ii)ar ôl paragraff 44 mewnosoder—

44A.  Unrhyw daliad a wneir i A o dan Ddeddf Darparu Iawn i Oroeswyr (Camdriniaeth Hanesyddol Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021(6).

44B.  Unrhyw daliad a wneir i A o dan Reoliadau Taliadau Dioddefwyr 2020(7).;

(b)yn Atodlen 2 (cyfalaf sydd i’w ddiystyru)—

(i)yn lle paragraff 20 rhodder—

20.(1) Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraffau 21 i 24 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (ffi neu gomisiwn am drosi cyfalaf i sterling, yr Ymddiriedolaethau Macfarlane, y Gronfa a’r Gronfa Byw’n Annibynnol, gwerth yr hawl i gael pensiwn personol neu alwedigaethol, gwerth cronfeydd o dan gynllun pensiwn personol a rhent).

(2) Unrhyw daliad a wneir o dan—

(a)Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru a sefydlwyd o dan adrannau 1 i 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac a weinyddir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre; neu

(b)Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Gogledd Iwerddon a weinyddir gan y Sefydliad Gwasanaethau Busnes Rhanbarthol a sefydlwyd o dan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009.;

(ii)ar ôl paragraff 35 mewnosoder—

36.  Unrhyw daliad a wneir i A o dan Ddeddf Camdriniaeth Sefydliadol Hanesyddol (Gogledd Iwerddon) 2019(8).

37.  Unrhyw daliad a wneir i A o dan Ddeddf Darparu Iawn i Oroeswyr (Camdriniaeth Hanesyddol Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021.

38.  Unrhyw daliad a wneir i A o dan Reoliadau Taliadau Dioddefwyr 2020.

39.  Unrhyw daliad a wneir i A o dan y cynllun taliadau ar gyfer cyn-blant mudol Prydeinig a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

2 Chwefror 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau Gosod Ffioedd”) a Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau Asesiad Ariannol”).

Mae’r Rheoliadau Gosod Ffioedd yn nodi’r gofynion y mae rhaid i awdurdodau lleol eu bodloni wrth ddyfarnu swm y ffioedd sy’n gymwys mewn perthynas â gofal a chymorth a ddarperir neu a drefnir ganddynt, neu y cynigiant eu darparu neu eu trefnu, wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Mae’r Rheoliadau Gosod Ffioedd hefyd yn cynnwys darpariaethau cyfochrog sy’n nodi’r gofynion sy’n gymwys pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu angen person am ofal a chymorth.

Mae’r Rheoliadau Asesiad Ariannol yn gwneud darpariaeth o dan y Ddeddf ynghylch y ffordd y mae rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad ariannol o adnoddau ariannol person (“A”) yn yr achosion a ganlyn:

  • pan fo’r awdurdod yn tybio, pe bai’n diwallu anghenion A am ofal a chymorth (neu anghenion gofalwr am gymorth), y byddai’n gosod ffi o dan adran 59 o’r Ddeddf, neu

  • pan fo’r awdurdod yn tybio, pe bai’n gwneud taliadau tuag at y gost o ddiwallu anghenion A am ofal a chymorth (neu angen gofalwr am gymorth) drwy wneud taliadau uniongyrchol yn rhinwedd adran 50 neu 52 o’r Ddeddf, y byddai’n ei gwneud yn ofynnol i A dalu, ar ffurf ad-daliad (yn achos taliadau gros) neu gyfraniad (yn achos taliadau net), tuag at y gost o sicrhau’r ddarpariaeth honno o ofal a chymorth.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 13 o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) fel a ganlyn:

  • cynnydd yn yr isafswm incwm wythnosol net ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal o £33 i £35.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 28 o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) fel a ganlyn:

  • cynnydd yn yr isafswm incwm wythnosol net ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal ac sy’n cael taliadau uniongyrchol o dan y Ddeddf o £33 i £35.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol fel a ganlyn:

Mae paragraff 30 wedi ei amnewid i ddarparu bod taliadau a wneir o dan:

  • Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru a sefydlwyd o dan adrannau 1 i 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac a weinyddir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre, neu

  • Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Gogledd Iwerddon a weinyddir gan y Sefydliad Gwasanaethau Busnes Rhanbarthol a sefydlwyd o dan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009,

i’w diystyru wrth gyfrifo incwm oedolyn at ddibenion asesiad o adnoddau ariannol yr oedolyn hwnnw. Mae taliadau a wneir o dan y cynlluniau cyfatebol, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Lloegr a Chynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, yn parhau i gael eu diystyru o dan baragraff 30(1) o Atodlen 1.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol fel a ganlyn:

  • mae unrhyw daliadau a wneir i A o dan Ddeddf Darparu Iawn i Oroeswyr (Camdriniaeth Hanesyddol Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021, neu

  • mae unrhyw daliadau a wneir i A o dan Reoliadau Taliadau Dioddefwyr 2020,

i’w diystyru wrth gyfrifo incwm oedolyn at ddibenion asesiad o adnoddau ariannol yr oedolyn hwnnw.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol fel a ganlyn:

Mae paragraff 20 wedi ei amnewid i ddarparu bod taliadau a wneir o dan:

  • Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru a sefydlwyd o dan adrannau 1 i 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac a weinyddir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre, neu

  • Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Gogledd Iwerddon a weinyddir gan y Sefydliad Gwasanaethau Busnes Rhanbarthol a sefydlwyd o dan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009,

i’w diystyru wrth gyfrifo cyfalaf oedolyn at ddibenion asesiad o adnoddau ariannol yr oedolyn hwnnw. Mae taliadau a wneir o dan y cynlluniau cyfatebol, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Lloegr a Chynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Yr Alban, yn parhau i gael eu diystyru o dan baragraff 20(1) o Atodlen 2.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol fel a ganlyn:

  • mae taliadau a wneir o dan Ddeddf Camdriniaeth Sefydliadol Hanesyddol (Gogledd Iwerddon) 2019,

  • mae taliadau a wneir o dan Ddeddf Darparu Iawn i Oroeswyr (Camdriniaeth Hanesyddol Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021,

  • mae taliadau a wneir o dan Reoliadau Taliadau Dioddefwyr 2020, neu

  • mae taliadau a wneir o dan y cynllun taliadau ar gyfer cyn-blant mudol Prydeinig a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol,

i’w diystyru wrth gyfrifo cyfalaf oedolyn at ddibenion asesiad o adnoddau ariannol yr oedolyn hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

2014 dccc 4. Gweler adran 197(1) am y diffiniadau o “penodedig”, “a bennir”, “a bennwyd” a “rheoliadau”.

(2)

O.S. 2015/1843 (Cy. 271), a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/255 (Cy. 68); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(5)

2009 p. 1 (G.I.).